Teulu yn rhybuddio rhag prynu tabledi ffug ar-lein

  • Cyhoeddwyd
mam Joe
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Joe am rannu ei phrofiad i ddiogelu eraill

Mae teulu myfyriwr 23 oed yn rhybuddio am beryglon tabledi ar-lein wedi iddo brynu rhai ffug yn ddiarwybod.

Mae Joe - nid ei enw iawn - bellach â niwed parhaol i'w ymennydd wedi iddo fod mewn coma.

Fe ddechreuodd brynu'r hyn yr oedd e'n ei gredu yn dabledi diazepam a Xanex oddi ar y we er mwyn lleddfu ei or-bryder.

Daeth yn gaeth i'r tabledi ac yn gynharach eleni fe aeth i goma ar ôl cymryd gormod ohonyn nhw.

Yn ei arddegau roedd Joe yn fachgen swil ac roedd symud i brifysgol yn her.

Ar ôl dychwelyd i'w gartref gwledig yng nghanolbarth Cymru wedi ei flwyddyn gyntaf roedd ei fam yn falch i ddechrau wedi iddi weld newid ynddo.

"Roedd ei bersonoliaeth wedi newid," meddai Sarah. "Roedd e'n fwy swnllyd ac ychydig yn fwy hy. Roeddwn i'n credu, a finnau braidd yn naïf, ei fod wedi dod mas o'i gragen."

Yr hyn na wyddai Sarah oedd bod Joe wedi prynu tabledi ar-lein i'w helpu heb wybod eu bod yn rhai ffug.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd mam Joe a'i chwaer yn bryderus am y newid ynddo

Cyn hir roedd ei deulu'n gweld newidiadau eraill ynddo hefyd.

"Roedd e'n cerdded yn ei gwsg, roedd ei hwyliau yn newid ac roedd cannwyll eu lygaid fel petaent wedi chwyddo," meddai Alex ei chwaer hynaf.

"Gofynnais iddo siarad â fi fel chwaer yn gyfrinachol ond wnaeth e ddim."

Yn ystod ei ail flwyddyn yn y brifysgol dechreuodd ei fam gael galwadau ganddo yng nghanol y nos.

"Roedd e'n dweud ei fod wedi bod yn cymryd cyffuriau presgripsiwn ond bod y cyfan wedi mynd allan o reolaeth," meddai Sarah.

"Fe ddes i wybod ei fod yn eu prynu oddi ar y we a'i fod yn eu defnyddio i ddelio â'i iechyd meddwl. Roedd e wedi ymchwilio i'w gyflwr ac yn credu ei fod yn delio â'r broblem.

"Ond wrth i bethau waethygu rwy'n credu ei fod e'n ofni ei fod bellach yn gaeth iddyn nhw."

Pan roedd e adref fe fyddai pecynnau a oedd yn edrych yn ddigon normal yn cyrraedd, ac roedd y cynnwys yn edrych yn debyg i dabledi presgripsiwn. Fe'u dangosodd i'w fam er mwyn ei chysuro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon cynyddol am dabledi sy'n cael eu prynu ar-lein

"Diazepam oedden nhw fwyaf," meddai.

"Roedd yna rifau, dyddiadau a thaflen wybodaeth. I fi roedden nhw'n gyffuriau go iawn ac roedd Joe yn credu hynny hefyd.

"Roedd e'n arfer dweud wrthyf ei fod yn gwybod faint i gymryd a bod y cyfan o dan reolaeth ac nad oedd angen i fi boeni.

"Na'th e ddim croesi fy meddwl eu bod nhw yn rhywbeth gwbl wahanol."

Ond roedd y tabledi yn rhai ffug.

Yn ôl labordy profi WEDINOS mae rhwng 45% a 65% o dabledi benzodiazepine sy'n cael eu profi, gan gynnwys diazepam a Xanax, yn rhai ffug.

Yn aml mewn tabledi o'r fath mae'r cynhwysion 10 waith yn gryfach.

'Credu ei fod wedi marw'

Doedd gan Joe ddim syniad fod y tabledi roedd yn eu cymryd yn rhai ffug ac yn gynharach eleni wrth i'w fam fynd i'w ddeffro fe ganfu ei fod wedi cymryd gormod.

"Roeddwn yn gallu gweld wrth i fi gyrraedd y drws ei fod yn gorwedd ar draws y gwely. O'i weld a'i deimlo roeddwn yn credu ei fod wedi marw.

"Doedd neb yn y tŷ. Fe ffoniais y gwasanaethau brys gan weiddi - doeddwn i methu siarad."

Bu'r parafeddygon am oriau yn ceisio achub bywyd Joe ac wedi cyfnod penderfynwyd mynd ag e i'r ysbyty.

Cafodd Sarah wybod y gallai farw cyn gadael y tŷ heb sôn am cyn cyrraedd yr ysbyty.

Roedd Joe wedi cael ataliad ar ei galon ac wedi cael niwed difrifol i'w ymennydd.

"Doedd y cyffuriau yr oedd Joe wedi eu prynu ar y we ddim yn rhai cyfreithlon. Nid beth yr oedd e a minnau yn ei gredu oedd yn y tabledi."

'Mor hawdd cael eich twyllo'

Dywed elusennau cyffuriau yng Nghymru bod y galw am dabledi benzodiazepine wedi cynyddu 150% yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - gyda llawer yn rhybuddio am y peryglon o brynu tabledi ar-lein.

"Mae mor hawdd cael eich twyllo," meddai Josie Smith, arweinydd rhaglen ar gamddefnyddio cyffuriau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Ry'n yn gweld y tabledi yma yn cael eu marchnata ac yn glyfar iawn mae nhw yn edrych yn union yr un fath â meddyginiaeth bresgripsiwn.

"Yn y blynyddoedd diwethaf ry'n yn ymwybodol ei bod wedi bod yn hawdd i gael y tabledi yma - nid dim ond yng Nghymru ond ar draws Ewrop. Mae yna ymgyrchoedd i'w marchnata ar y we ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Yr her i ni yw codi ymwybyddiaeth am y peryg o gymryd rhywbeth nad ydych yn gwybod beth yw e - hyd yn oed os yw e'n rhywbeth tebyg i be' chi wedi cael yn y gorffennol."

I Joe, sy'n parhau i ymladd am ei fywyd, mae'n rhy hwyr.

"Ond petaem ond yn gallu sicrhau bod un teulu ddim yn cael ein profiad ni - fe fyddai hynna'n beth da," meddai ei chwaer Alex.

Os ydych yn gaeth i gyffuriau, mae cymorth ar gael yma.

Mae enwau Joe a'i deulu wedi cael eu newid. Mae'r stori yn llawn ar Wales Live, BBC 1 Cymru, nos Fercher am 22:35.