Canslo brechiadau ym Mae Cinmel wedi difrod dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae pob apwyntiad am frechiad Covid-19 mewn canolfan yn Sir Conwy wedi eu canslo ddydd Gwener oherwydd difrod i'r adeilad.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod "gollyngiad wedi achosi difrod dŵr sylweddol" i Ganolfan Frechu Bae Cinmel.
Dywed llefarydd bod staff yn y broses o gysylltu â phobl i aildrefnu eu hapwyntiadau brechu ac y bydd pobl yn cael eu brechu dros dro yng Nghanolfan Brechu Torfol Llandudno.
"Rydym ni'n gobeithio cael sesiynau ar waith eto yn y Ganolfan Frechu Leol ym Mae Cinmel yn gynnar yr wythnos nesaf. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra," ychwanegodd llefarydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y cyfamser mae Tîm Rheoli Digwyddiadau sy'n cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymgynnull ar ôl cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yn Sir Ddinbych.
Dywedodd Nicola Stubbins, Cadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i ymchwilio i nifer cynyddol o achosion Covid-19 cysylltiedig yn y sir.
"Rydym yn ymwybodol bod Covid-19 yn dal i gylchredeg yng ngogledd Cymru a hoffem sicrhau preswylwyr ein bod yn gweithio i leihau unrhyw ledaeniad pellach. Mae hyn yn cynnwys cynnal profion ychwanegol yn y sir dros y dyddiau nesaf yn ogystal â phroses Profi, Olrhain a Diogelu gwell."
"Dylai unrhyw un sy'n datblygu symptomau Covid-19 archebu prawf mewn canolfan brawf ar unwaith ac yn dilyn canlyniad positif, dylai preswylwyr hunanynysu a rhannu'r holl wybodaeth berthnasol gyda chynghorwyr Profi, Olrhain a Diogelu.
"Rydym hefyd yn atgoffa'r rhai sy'n gymwys a ddim yn dangos symptomau i wneud profion Llif Unffordd rheolaidd gartref, sydd am ddim, ac y gellir eu harchebu ar-lein i'w danfon gartref.
"Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y firws a chadw achosion i lawr. Rydyn ni'n atgoffa'r cyhoedd bod ganddynt rôl hanfodol o ran atal lledaeniad yr haint ac iddynt barhau i fod yn wyliadwrus a gweithredu'n ofalus," ychwanegodd.
Ddydd Gwener fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 118 yn rhagor o achosion positif o Covid-19 ar draws Cymru.
Sir Conwy sy'n parhau â'r gyfradd achosion uchaf, sef 34.1 i bob 100,000.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021