Mwy o bobl yn gymwys i roi gwaed wrth i'r rheolau newid

  • Cyhoeddwyd
Carl (chwith) and Martin (dde)Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carl a Martin, sy'n gwpl priod, yn cael rhoi gwaed o ddydd Llun ymlaen

Bydd Carl a Martin, sy'n gwpl priod, yn cael rhoi gwaed o ddydd Llun ymlaen - carreg filltir bwysig, medd cymunedau LGBT+.

Tan nawr mae dynion sy'n cael rhyw gyda dynion eraill wedi gorfod aros dri mis cyn rhoi gwaed.

O ddydd Llun fe fydd unrhyw un yn gallu rhoi gwaed os ydynt wedi bod gyda'r un partner yn ystod y tri mis diwethaf.

Ond bydd unrhyw un sydd wedi cael rhyw yr anws gyda phartner newydd neu fwy nag un partner yn ystod y tri mis diwethaf - beth bynnag eu rhywedd neu rywioldeb - ddim yn cael rhoi gwaed am dri mis.

'Yn falch'

Dywed Carl o Drecelyn yng Nghaerffili: "Rwy' wrth fy modd fy mod wedi cael apwyntiad i roi gwaed yn sgil y newidiadau.

"Mae hi ond yn deg bod ymddygiad pawb yn cael ei drin yr un fath - beth bynnag yw rhywedd eu partner."

Disgrifiad o’r llun,

Martin Eagle yn rhoi gwaed bore Llun

Ychwanegodd ei ŵr, Martin: "Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig i Carl a fi.

"Gyda'n gilydd ry'n yn gallu gwneud cyfraniad a all achub bywydau cleifion. Fe gafodd fy nhad sawl trallwysiad gwaed ac rwy' wastad yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth y rhai sy'n rhoi gwaed.

"Mae fy nith hefyd wedi cael sawl trallwysiad gwaed yn ystod ei thriniaeth ar gyfer lewcemia - mae hi bellach yn well a dwi'n edrych ymlaen i helpu rhywun fel hi."

Ffynhonnell y llun, Shane Andrews
Disgrifiad o’r llun,

'Rwy'n ei theimlo'n fraint cychwyn ar y daith o arbed bywydau gan roi gwaed,' medd Shane Andrews

Mae Shane Andrews o Gaerdydd, sydd yn ymgyrchydd LGBT, hefyd wedi cael apwyntiad i roi gwaed am y tro cyntaf.

"Rwy'n ei theimlo'n fraint cychwyn ar y daith o arbed bywydau gan roi gwaed ar Ddiwrnod Rhyngwladol Rhoi Gwaed ac yn ystod mis Pride," meddai.

Dywed Gwasanaeth Gwaed Cymru bod angen i 350 o bobl y dydd roi gwaed er mwyn darparu gwaed i 20 ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed cyfarwyddwr y gwasanaeth Alan Prosser: "Ry'n yn falch o nodi Diwrnod Rhoi Gwaed y Byd drwy groesawu mwy o bobl i roi gwaed a phlatennau.

"O heddiw ymlaen mae mwy o bobl yn gallu rhoi gwaed - diolch i drefn newydd a thecach sy'n nodi bod mwy o bobl yn gymwys.

"Nid y gwasanaethau gwaed sy'n gosod y rheolau am bwy sy'n cael rhoi ond ry'n yn falch bod ein gwaith gyda grŵp llywio FAIR wedi arwain at y rheolau newydd."

Dywed Pennaeth Nyrsio Gwaed Cymru, Zoe Gibson: "Mae diogelwch cleifion yn gwbl allweddol i bob dim ry'n yn ei wneud. Mae pob gwaed sy'n cael ei roi yn cael ei brofi'n helaeth am heintiadau cyn cael ei anfon i ysbytai er mwyn sicrhau diogelwch y cyflenwad gwaed."

Croesawu ymchwiliad cyhoeddus

Un sy'n gwerthfawrogi mesurau diogelwch o'r fath yw Bronwen Cruddas o Ffos y Gerddinen ger Caerffili, wyres i ddyn a gafodd waed wedi ei heintio.

Bu farw yn ei chwedegau ddeg mlynedd yn ôl a dywed ei wyres ei fod yn ei golli bob dydd. Dywed hefyd ei bod yn gwerthfawrogi bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r mater.

Disgrifiad,

'Roedd dad-cu yn rhy ifanc i farw'

Dywed Blood Equality Wales: "Mae'n dda gweld y newidiadau am bwy sy'n gymwys i roi gwaed yn dod i rym - yn enwedig wedi i gymaint o bobl o'r gymuned LGBT+ ymgyrchu am y newidiadau am gyfnod mor hir.

"Mae'r newidiadau i'w croesawu ond mae dal tipyn o waith i'w wneud er mwyn sicrhau cydraddoldeb lwyr."

Mae Davinia Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, hefyd yn croesawu'r newidiadau ac yn dweud fod y newid yn "gam cyntaf sy'n sicrhau bod asesiad risg yn cael ei wneud ar sail unigolyn".

Pa gwestiynau?

Cyn rhoi gwaed, bydd hi'n ofynnol i bobl gwblhau ffurflen wirio a fydd yn gofyn, a ydych yn ystod y tri mis diwethaf:

  • Wedi cael rhyw gyda rhywun sydd wedi cael siffilis, hepatitis neu HIV?

  • Wedi derbyn arian am gyffuriau neu ryw?

  • Wedi cael rhyw gyda rhywun sydd wedi derbyn arian am gyffuriau neu ryw?

  • Wedi cael rhyw gydag unrhyw un sydd wedi chwistrellu cyffuriau?

  • Wedi cymryd proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) neu broffylacsis ôl-gysylltiad (PEP) fel amddiffyniad rhag HIV?

  • Wedi defnyddio cyffuriau yn ystod rhyw (ac eithrio canabis neu gyffuriau at ddibenion rhywiol)?

Os yw'r ateb i un o'r cwestiynau uchod yn gadarnhaol ni fydd modd rhoi gwaed am gyfnod.

Daw'r newidiadau wedi adolygiad gan grŵp llywio FAIR sydd o blaid asesiad risg unigol - grŵp sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad y GIG. Fe ddaeth y grŵp i gasgliad bod y newidiadau yn decach ac maent yn dweud mai'r hyn sy'n bwysig yw sicrhau diogelwch y cyflenwad gwaed.

Pynciau cysylltiedig