Gostyngiad bach mewn diweithdra yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
diweithdra

Roedd yna ostyngiad bach yn lefel diweithdra Cymru yn y tri mis hyd at fis Ebrill.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 66,000 o bobl dros 16 oed heb waith yng Nghymru, sy'n 4.3%.

Mae hynny'n cymharu â 4.7% ar draws y DU.

Rhwng Chwefror ac Ebrill roedd 28,000 yn rhagor o bobl yn gweithio yng Nghymru o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

Serch hynny roedd nifer y di-waith 19,000 yn uwch nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd pan darodd y pandemig

Mae yna ostyngiad mawr - 32,000 - yn nifer y bobl sy'n ddi-waith a methu gweithio.

Ar draws y DU mae'r swyddi sydd ar gael wedi codi i'r lefel uchaf ers cyn y pandemig.

Rhwng Mawrth a Mai, gyda'r hwb i'r economi wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio, roedd yna 24% yn rhagor o swyddi gwag o'i gymharu â'r tri mis blaenorol.

Mae cyflogau hefyd yn cynyddu - ar raddfa o 5.6% - ar draws y DU.

Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, yn enwedig o fewn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth ganolog y DU.

Dadansoddiad Gohebydd Economaidd BBC Cymru, Sarah Dickins

Mae'r farchnad waith yng Nghymru'n dechrau gwella'n raddol ac mae'n glir bod cyflogwyr wedi dechrau penodi mwy o bobl wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws lacio.

Nid yn annisgwyl, mae busnesau bwyd a diod a thwristiaeth ar draws y DU wedi bod yn arbennig o brysur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau lletygarwch awyr agored wedi gallu ailagor wrth i'r cyfyngiadau Covid lacio

Mae'n arwyddocaol bod 32,000 o bobl nad oedd yn gallu gweithio am ba bynnag reswm hyd at Ionawr, bellach yn gallu gweithio.

Mae cyfran y bobl na ellir eu cyflogi am eu bod yn sâl neu'n gofalu am rywun arall yn aml yn cael ei hanghofio.

Ni ddyliwn ni anghofio ychwaith bod yna dal 19,000 yn fwy o bobl yng Nghymru heb waith na rhwng Chwefror ac Ebrill ac Ebrill 2020 pan darodd y pandemig.

O 1 Gorffennaf bydd yn rhaid i gyflogwyr sydd â staff ar gyfnod saib o'r gwaith dalu mwy at eu cadw ar y cynllun hwnnw.

Mae disgwyl i'r cynllun ffyrlo ddod i ben yn gyfan gwbl ddiwedd Medi.

Ni allwn ragweld effaith hynny ac a fydd cyflogwyr yn derbyn gweithwyr yn ôl, ynteu'n penderfynu bod dim swydd ar eu cyfer bellach.