Merched Cymru 0-1 Merched Yr Alban
- Cyhoeddwyd

Fe gollodd tîm merched Cymru o 1-0 yn erbyn Yr Alban mewn gêm gyfeillgar ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Roedd gôl Erin Cuthbert wedi awr o'r chwarae yn ddigon i hawlio buddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Rhwydodd Cuthbert ar ôl camgymeriad gan golwr Cymru, Laura O'Sullivan.
Ar nodyn fwy cadarnhaol i Gymru, roedd Carrie Jones, chwaraewr canol cae 17 oed Manchester United, yn dechrau gêm dros ei gwlad am y tro cyntaf.
Hon oedd trydedd gêm Cymru ers i Gemma Grainger ddod yn rheolwr, a'r gêm gyfeillgar olaf cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Medi.