Rhybudd i'r cyhoedd yn dilyn 'tân sychwr gwallt'
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth tân y gogledd yn rhybuddio'r cyhoedd i adael i offer trydanol "oeri'n iawn cyn eu cadw" wedi tân difrifol ym Mhwllheli ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaeth eu galw i fyngalo yn Lôn Ceredigion ddechrau'r prynhawn.
"Credir iddo gael ei achosi gan wres pelydredig o sychwr gwallt wedi'i rhoi mewn drôr," medd y gwasanaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Diolch byth na anafwyd neb."

Yr olygfa yng nghegin yr eiddo wedi'r tân
Roedd yna rybudd i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau wrth i griwiau tân ymateb i'r sefyllfa.
Roedd y fflamau dan reolaeth erbyn diwedd y prynhawn ond rhybuddiodd y gwasanaeth y byddai'n "debygol y bydd mwg yn allyrru o'r adeilad am sawl awr" oherwydd "difrifoldeb y tân a'r gwres gweddilliol".