Coedwig Cwmcarn i ailagor ar ôl chwe blynedd

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o Fforest CwmcarnFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r goedwig yn lle poblogaidd i seiclwyr

Bydd atyniad Fforest Cwmcarn yn Sir Caerffili yn ailagor ddydd Llun ar ôl bod ar gau i ymwelwyr am chwe blynedd.

Cafodd y safle ei gau er mwyn torri miloedd o goed llarwydd heintiedig.

Mae contractwyr yn torri'r coed er mwyn atal lledaeniad clefyd ffwngaidd Phytohthora Ramorum.

Mae tua £2m wedi cael ei wario yn paratoi'r safle ar gyfer ei ailagor.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r goedwig wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol er mwyn creu atyniad "mae pob cynulleidfa'n gallu mwynhau", yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerffili.

Mae'n cynnwys nifer o lwybrau ar gyfer pob gallu, ardaloedd picnic newydd, podiau glampio, tair ardal chwarae newydd, a chaban pren fydd yn ganolfan addysgu.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Mae caban pren newydd wedi cael ei adeiladu yn y safle

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi wynebu "argyfwng amgylcheddol a oedd yn heriol iawn i ddelio gyda, ond roedd hefyd goblygiadau cost enfawr ac roedd yn rhaid i ni symud yn gyflym iawn, iawn".

"Mae'r safle yma wedi cael ei ddelio gyda, ond mae yna nifer mwy o safleoedd yng Nghymru ac yn y DU ble rydyn ni'n ymladd y clefyd ac mae'n rhaid lladd a thorri coed llarwydd mewn niferoedd mawr," meddai David Letellier o Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd Phytophthora Ramorum ei ddarganfod yn gyntaf yng Nghwm Afan, Castell-nedd Port Talbot, ond mae coed wedi cael eu torri ar draws Cymru, gan gynnwys ym Mwlch Nant-yr-Arian ger Aberystwyth yng Ngheredigion.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geminie Drinkwater mae'r prosiect yn bwysig iawn ar ôl y cyfnod clo

Dywedodd Geminie Drinkwater, rheolwr prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yr ailagor hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y cyfyngiadau a gafodd eu gweithredu yn ystod y pandemig.

Dywedodd: "Mae cael rhywbeth ar y stepen drws y mae pobl yn gallu mwynhau a buddio'n fawr o yn mynd i fod yn hynod o bwysig wrth i ni laesu'r cyfnod clo yn fwy ac yn fwy dros fisoedd yr haf."

Dywedodd y cynghorydd Philippa Marsden, arweinydd cyngor Caerffili, ei fod yn "ffantastig" i "ddod â'r atyniad gwych yma nôl mewn i ddefnydd y cyhoedd".

Cytunodd aelodau cabinet Cyngor Caerffili fis diwethaf ar drefniad cydweithredol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r goedwig.

Pynciau cysylltiedig