Plancton llachar Penmon yn 'dal dychymyg' ffotograffydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r ffotograffydd Gareth Môn Jones wedi aros wythnosau i weld y plancton bio-ymoleuol

Os ewch chi i draeth Penmon, Ynys Môn, gyda'r nos, efallai y gwelwch chi liwiau llachar yn disgleirio yn y môr.

Na, nid rhyw fath o sleim arallfydol neu hud a lledrith mo hwn, ond plancton bio-ymoleuol (bioluminescent) sydd yn sgleinio o dan wyneb y dŵr; golau glas sydd yn cael ei belydru gan greaduriaid a phryfaid bach.

Un sydd wedi gweld y ffenomenon naturiol yma amryw o weithiau yw'r ffotograffydd lleol, Gareth Môn Jones.

Ond mae o dal wrth ei fod â'r olygfa, meddai, ac yn ymdrechu i gael y lluniau gorau posib - hyd yn oed os ydy hynny'n golygu treulio oriau yn rhynnu ar draeth yn aros am 'y siot perffaith'.

"Dwi wedi bod wrthi yn aros am yr amser iawn i dynnu'r llunia' ers wythnosau," eglurodd Gareth.

"Fel arfer dwi'n dod adre o'r gwaith, rhoi'r plant y gwely ac unwaith mae'n tywyllu rwy'n dweud ta-ra wrth y wraig a chychwyn allan am draeth Penmon.

"Mae'n rhaid bod hi wedi tywyllu felly dwi yna weithiau am 11:30pm, 12:20am. Mae'n bendant yn mynd yn hwyr iawn arna i weithiau."

'Werth yr aros'

Mae'n rhaid i'r amodau fod yn iawn er mwyn i chi gael gweld y creaduriaid llachar yma - rydych chi'n fwy tebygol o'u gweld yn ystod misoedd cynhesaf y flwyddyn - ond hyd yn oed wedyn, eglura Gareth, mae hi dal yn anodd rhagweld pryd fyddan nhw'n ymddangos.

"Mae'n wahanol i'r Northern Lights neu rywbeth fel 'na. Ti'n gallu predictio mwy neu lai pryd mae hynny am ddigwydd, ond gyda'r stwff yma mae o fwy fel pot luck.

"Y ffordd orau dwi 'di ffeindio i wybod pryd mae'n debygol o ddigwydd ydi holi'r pysgotwyr sy'n dod yn aml i Benmon. Ond iddyn nhw tydi o ddim gymaint o beth - wedi weld o rhy aml ella… dydi nhw bendant ddim yn ecseitio fel o'n i!

Ffynhonnell y llun, Gareth Môn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llun y tynnodd Gareth o'r ffenomenon yn 2019

"Mae'n surreal iawn pan ti'n weld o am y tro cynta'. Dwi'n galw fo'n sŵp pys gan fod stwff mor drwchus os 'da chi'n rhoi eich dwylo ynddo fo. Mae o mor llachar hefyd pan 'da chi'n weld o.

"Mae o'n sicr wedi dal y dychymyg. O'dd o'n bendant werth yr aros i gael y lluniau!"

Hefyd o ddiddordeb: