Y capten Alun Wyn Jones allan o daith y Llewod gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Alun Wyn adael y maes o fewn yn munudau agoriadol

Mae Alun Wyn Jones allan o weddill taith y Llewod i Dde Affrica ar ôl datgymalu ei ysgwydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Japan yn Murrayfield ddydd Sadwrn.

Daeth y capten oddi ar y cae o fewn saith munud i'r dechrau, ond cafodd ei weld yn yr eisteddle cyn diwedd y gêm heb rwymyn amlwg.

Er hynny, cadarnhaodd y prif hyfforddwr Warren Gatland na fydd Alun Wyn Jones ar gael i chwarae am weddill yr haf.

Mae mewnwr Iwerddon, Conor Murray, wedi'i ddewis fel capten am weddill y daith.

Bu'n rhaid i'r Cymro Justin Tipuric hefyd adael y maes yn yr hanner cyntaf gydag anaf ac mae'r Llewod bellach wedi cadarnhau fod ei daith yntau ar ben.

Mae Adam Beard a Josh Navidi o Gymru wedi cael eu galw i'r garfan yn eu lle.

Ar y cae, fe sgoriodd y Llewod bedwar cais wrth iddyn nhw ennill o 28-10.

Sgoriodd y Cymro Josh Adams y cyntaf o'r rheiny, gyda Duhan Van der Merwe, Tadgh Beirne a Robbie Henshaw yn sgorio'r gweddill. Dan Biggar giciodd y pwyntiau.

Ar ôl y gêm, dywedodd Gatland mai'r "senario gorau un" oedd y byddai Alun Wyn Jones yn ffit ar gyfer y Prawf cyntaf yn erbyn y Springboks ar 24 Gorffennaf.

Justin Tipuric yn gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd yntau hefydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Justin Tipuric yn gadael y maes gydag anaf i'w ysgwydd yntau hefyd

Roedd 16,500 o gefnogwyr yn Murrayfield, wrth i'r Llewod a Japan wynebu ei gilydd am y tro cyntaf.

Am y tro cyntaf hefyd mewn 71 o flynyddoedd, doedd tîm cychwynnol y Llewod ddim yn cynnwys Sais.

Hon oedd gêm gyntaf i Japan chwarae ers colli yn rownd chwarteri Cwpan y Byd yn 2019. Colli oedd eu hanes yn erbyn De Affrica 20 mis yn ôl.

Bydd taith wyth gêm y Llewod i Dde Affrica yn dechrau ar 3 Gorffennaf yn Johannesburg - yn erbyn tîm sydd hefyd â'r enw y Llewod - a'r gyfres brawf yn dechrau tair wythnos yn ddiweddarach.

Y tîm gychwynnodd y gêm v Japan

Blaenwyr: 1 R Sutherland; 2 K Owens; 3 T Furlong; 4 I Henderson; 5 AW Jones (capten); 6 T Beirne; 7 J Tipuric; 8 J Conan

Olwyr: 9 C Murray; 10 D Biggar; 11 D van der Merwe; 12 B Aki; 13 R Henshaw; 14 J Adams; 15 L Williams

Pynciau cysylltiedig