Caniatâd i osod Jac yr Undeb wyth llawr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae baner Jac yr Undeb wyth llawr o faint wedi cael caniatâd i gael ei rhoi ar swyddfeydd newydd Llywodraeth y DU yng nghanol Caerdydd.
Penderfynodd swyddogion cynllunio Cyngor Caerdydd gymeradwyo'r arwydd finyl sy'n mesur 32 metr o uchder a naw metr o led.
Bydd yr arwydd yn cael ei osod ar ffenestri ar ochr yr adeilad fydd yn gartref i swyddfeydd trethi Llywodraeth y DU yn ardal sgwâr canolog y brifddinas.
Yn ogystal â'r swyddfeydd trethi, sy'n symud o Dŷ Glas yn Llanisien, bydd yr adeilad newydd Tŷ William Morgan hefyd yn gartref i Swyddfa Cymru.
Cyn y pandemig roedd cynlluniau i 4,000 o bobl weithio o'r swyddfeydd newydd.
Dywedodd swyddogion cynllunio, er bydd yr arwydd yn un mawr, ei fod "o faint addas o ystyried maint llawn yr adeilad".
Ychwanegodd adroddiad gan swyddogion y cyngor fod hysbyseb mawr yn yr ardal ger Plaza'r Mileniwm eisoes wedi ei gymeradwyo.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Tŷ William Morgan yn adeilad sylweddol o ran Llywodraeth y DU, ac y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
"Mae'n arferiad gyda safleoedd tebyg o eiddo Llywodraeth y DU, ledled y Deyrnas Unedig a'r byd, i ddangos Jac yr Undeb fel rhan o'm brandio.
"Mae baner Cymru yn cael ei chwifio yn adeilad Tŷ Wiliam Morgan, sydd hefyd â brandio arall sy'n benodol ar gyfer Cymru.
"Roedd enw'r adeilad newydd wedi ei ddewis i adlewyrchu buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru a diwylliant Cymreig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018