Beirniadu Cyngor Gwynedd am hedfan Jac yr Undeb

  • Cyhoeddwyd
baneri
Disgrifiad o’r llun,

Jac yr Undeb yn hedfan y tu allan i bencadlys Cyngor Gwynedd - y Ddraig Goch sydd yno fel arfer

Mae Cyngor Gwynedd wedi cael eu beirniadu am dynnu baner y Ddraig Goch a chodi un â Jac yr Undeb arni yn ei lle y tu allan i'w pencadlys i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei nodi'n swyddogol ddydd Sadwrn, yn coffáu'r rheiny sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU.

Ond mae cynghorydd Llais Gwynedd wedi beirniadu penderfyniad y cyngor i dynnu'r faner sydd fel arfer yn hedfan y tu allan i'w prif siambr.

Yn ôl Alwyn Gruffydd, sy'n cynrychioli ward Tremadog, mae'n "warthus" fod yr awdurdod lleol wedi penderfynu tynnu baner genedlaethol Cymru i lawr.

Dywedodd y cyngor bod "baneri eraill weithiau'n chwifio am gyfnodau byr i nodi digwyddiadau penodol" a bod y trefniant ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog mewn lle ers 2009.

'Digwyddiadau penodol'

"Dydi Jac yr Undeb ddim yn cynrychioli Cymru a dydi o'n bendant ddim yn fy nghynrychioli i," meddai Mr Gruffydd.

"Dwi'n ei gweld hi'n warthus fod cyngor sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, sy'n disgrifio'u hunain fel un genedlaetholgar, yn gweld hyn yn dderbyniol."

Ychwanegodd: "Does gen i ddim problem efo nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ond mae gennym ni ein baner ein hunain yng Nghymru, y Ddraig Goch.

"Bydd unrhyw ymwelwyr i'r parc coffa Cymreig yn Ypres, Gwlad Belg yn gweld mai draig sy'n cael ei harddangos yno.

"Dyw hedfan baner Cymru ddim yn amarch o gwbl i'r rheiny sydd wedi gwasanaethu mewn rhyfeloedd, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n warth bod baner ein gwlad wedi cael ei thynnu lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alwyn Gruffydd fod cofebau eraill i Gymry fu'n brwydro, fel yr un yn Fflandrys, yn defnyddio'r Ddraig Goch

Llynedd cafwyd ffrae ar Ynys Môn wedi i aelodau o'r wrthblaid annibynnol geisio pasio cynnig y dylai Jac yr Undeb hedfan drwy'r flwyddyn ochr yn ochr â'r Ddraig Goch a logo'r cyngor.

Ar hyn o bryd mae baner Jac yr Undeb ond yn cael ei chodi ar rai dyddiau'r flwyddyn, gan gynnwys pen-blwydd y Frenhines.

Ond fe gafodd y cynnig hwnnw i newid polisi'r awdurdod lleol, sydd wedi bod mewn grym ers 2001, ddim ei basio.

Y tu allan i adeilad Cyngor Môn mae tri pholyn yn sefyll, ond y tu allan i siambr Cyngor Gwynedd dim ond un sydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae baner Cymru yn cael ei dangos yn swyddfeydd y cyngor drwy gydol y flwyddyn. Mae baneri eraill weithiau'n chwifio am gyfnodau byr i nodi digwyddiadau penodol.

"Fel sy'n wir ar gyfer cynghorau drwy gydol Cymru a'r DU, mae baner Diwrnod Lluoedd Arfog y DU yn cael ei dangos. Mae'r trefniant hwn wedi bod mewn lle ers 2009 i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog."