Y Trysorlys yn cyfrannu llai at y cynllun ffyrlo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig yn parhau i gael effaith ar sawl busnes

Bydd taliadau ffyrlo gan Lywodraeth y DU i weithwyr yn sgil y pandemig yn dechrau lleihau o ddydd Iau ymlaen.

Mae'r newidiadau i gynllun Llywodraeth y DU yn golygu mai 70% o gyflogau'r gweithwyr hynny fydd y dod o'r Trysorlys.

Bydd gweithwyr yn parhau i dderbyn 80% o'u cyflogau, ond gyda'r cyflogwyr yn cyfrannu'r gweddill.

Erbyn 1 Awst bydd cyfraniad ariannol Llywodraeth y DU yn lleihau i 60%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 378,400 o bobl ar ffyrlo yng Nghymru ym mis Mehefin 2020

Cafodd y cynllun ei greu er mwyn cynorthwyo busnesau nad oedd yn gallu gweithredu oherwydd amgylchiadau'r pandemig.

Parhau i ostwng mae nifer y gweithwyr ar ffyrlo yng Nghymru. Ddiwedd Mai roedd 88,500 yn rhan o'r cynllun - 46,200 yn is na'r ffigwr ddiwedd Ebrill.

Cafodd y nifer fwyaf o daliadau eu gwneud fis Mehefin y llynedd pan roedd 378,400 ar ffyrlo.

Wrth ymateb i'r newidiadau ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i barhau â'r cynllun wrth i fusnesau ac unigolion barhau i ymdopi gydag effeithiau'r pandemig.

"Rydym wedi bod yn glir ac yn eglur na ddylai'r cynllun hwn a chynlluniau eraill gael eu hatal tan fod yr economi yn barod.

"Tra bod datblygiadau brechlynnau wedi rhoi lle i obeithio ac i fod yn optimistaidd, mae'n glir y bydd effeithiau'r pandemig yn parhau am beth amser eto, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi unigolion a busnesau tra bod angen hynny."