Carcharu gyrrwr lori am achosi marwolaeth tad o Geredigion
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr lori 26 oed wedi cael ei garcharu am dair blynedd am ddefnyddio ffôn symudol tra'n gyrru gan achosi marwolaeth dyn o Geredigion.
Plediodd David Tony Platt o Swydd Amwythig yn euog mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys y Goron Abertawe i achosi marwolaeth Benjamin Partis, 38 mewn gwrthdrawiad ar yr A487 yng Ngheredigion ym mis Mehefin y llynedd.
Roedd Platt yn gyrru lori a oedd yn cario 30 tunnell o fwyd anifeiliaid pan fethodd ag ymateb i gerbydau oedd wedi stopio o'i flaen, gan wyro i lwybr y traffig a oedd yn dod tuag ato yn ardal croesffordd Pentregât, rhwng Tanygroes a Synod Inn.
Fe wnaeth lori Platt daro fan Ford Transit oedd yn cael ei gyrru gan Mr Partis, fu farw yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth teithiwr yn y fan, John Noble hefyd ddioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad, ac fe gafodd Platt ei ddedfrydu hefyd am achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Cyfaddefodd Platt yn ei gyfweliad heddlu ei fod wedi defnyddio ei ffôn symudol yn gynharach yn ystod ei daith gan dynnu lluniau, gwneud galwadau ffôn a chrwydro'r we.
Roedd hefyd yn goryrru cyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd dyweddi Mr Partis, Sophie Hickinbotham, a oedd yn feichiog ar adeg ei farwolaeth, mai dweud wrth ei blant fod eu tad wedi marw oedd y peth anoddaf iddi orfod ei wneud erioed.
"Ni ddylai plentyn 13 oed orfod cynllunio angladd eu tad. Ni ddylai plentyn pedair oed glywed na fyddan nhw'n gallu gweld eu tad byth eto," meddai mewn datganiad i'r llys.
"Ni ddylai plentyn dwy oed orfod chwythu cusan i'r awyr yn y nos er mwyn gallu dweud nos da wrth ei thad.
"Ni ddylai babi orfod cael ei eni heb erioed gael cwtsh cynnes na hyd yn oed cwrdd â'u tad oherwydd gweithredoedd dieithryn.
"Yn anffodus, dyna'r realiti i blant Ben."
Cafodd Platt ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar a'i wahardd rhag gyrru am 42 mis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020