Lions 14 Y Llewod 56: Pedwar cais i Josh Adams
- Cyhoeddwyd
Tri munud yn unig gymerodd hi i'r Llewod i sgorio yn Johannesburg gyda'r Cymro Louis Rees-Zammit yn sgorio ei gais cyntaf i'r teithwyr ar ôl gwaith da ynghanol cae gan Chris Harris.
Fe chwaraeodd Cymro arall ran allweddol yn yr ail gais. Fe basiodd yr wythwr Taulupe Faletau y bêl i Hamish Watson ruthro dros y llinell.
Roedd mantais yr ymwelwyr yn 21-0 wedi ychydig dros hanner awr o chwarae gyda Ali Price, mewnwr Lloegr, yn croesi dan y pyst.
Cyn yr egwyl roedd yna lygedyn o obaith i'r tîm cartref. Fe fanteisiodd y blaen asgellwr Vincent Tshituka ar bas hir gan olygu bod digonedd o le ganddo i groesi'r llinell.
Ar ôl yr ail ddechrau daeth ail gais i Josh Adams wedi i Price daflu'r bêl iddo ar ôl i flaenwyr y Llewod ei hennill yn y lein.
Doedd y tîm cartref ddim wedi digalonni yn llwyr wrth i'r asgellwr Rabz Maxwane ychwanegu ail gais iddyn nhw.
Fe sgoriodd Adams ei drydydd cais ar ôl cic glyfar ar draws y cae gan Fin Russell.
Diwrnod i'w gofio
Roedd yna Gymro arall yn awyddus i ymuno yn y sgorio. Llwyddodd y canolwr Elliot Daly i basio i'r eilydd arall, y mewnwr Gareth Davies. Fe sgoriodd chwaraewr y Scarlets o dan y pyst.
Daeth cais nesa'r Llewod wedi 72 o funudau a Daly yn allweddol eto yn y symudiad. Fe roddodd e'r bêl i bwy arall ond Josh Adams? Fe goronodd y chwaraewr 26 oed ei berfformiad cofiadwy drwy groesi'r llinell am y pedwerydd tro.
Dechreuad addawol felly i daith hir-ddisgwyliedig y Llewod a diwrnod i'w gofio i asgellwr chwith y Gleision.