Y gweinyddwr addysg Gareth Pierce wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gareth Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gareth Pierce tra'n cerdded mynyddoedd Eryri

Yn 68 oed bu farw'r gweinyddwr addysg Gareth Pierce.

Roedd o ar daith gerdded ym mynyddoedd yr Aran pan gafodd o ei daro'n wael ddydd Sadwrn, 3 Gorffennaf.

Ef oedd Prif Weithredwr Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru tan ei ymddeoliad yn 2018.

Yn ddiweddar bu'n gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd hefyd yn aelod o'r panel sy'n adolygu cyflogau athrawon yng Nghymru.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

"Mae'r newyddion am farwolaeth sydyn Cadeirydd Bwrdd y Coleg, Gareth Pierce, wedi ein tristhau'n ddirfawr. Ar ran staff ac aelodau Bwrdd y Coleg, hoffwn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at wraig Gareth, Lynwen, a'i feibion, Gwyn a Siôn, yn eu colled.

"Gwnaeth Gareth gyfraniad aruthrol i'r Coleg, yn enwedig dros y deunaw mis diwethaf a braint oedd ei adnabod. Roedd yn ŵr bonheddig a deallus a byddwn yn gweld eisiau ei gyngor a'i arweiniad doeth."

Yn gynharach yn ei yrfa bu Gareth Pierce yn uwch reolwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a chyn hynny fe fu'n weinyddwr gyda'r Brifysgol Agored ac yn Bennaeth adran Fathemateg Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Trwy gydol ei oes roedd o'n fynyddwr brwdfrydig ac yn aelod blaenllaw o Glwb Mynydda Cymru ers ei sefydlu yn 1979. Tan yn ddiweddar fe fu'n cadeirio pwyllgor cyfarwyddwyr Cyngor Mynydda Prydain (BMC).

Dywedodd Eryl Owain o Glwb Mynydda Cymru:

"Roedd o'n aelod poblogaidd dros ben a brwdfrydedd heintus yn rhan o'i gymeriad - wrth fynydda neu unrhyw orchwyl arall y byddai'n ymgymryd â hi."

Yn wreiddiol o Ddolgellau roedd o wedi ymgartrefu yn Llangyndeyrn yn Sir Gar.