Morgannwg yn cipio saith wiced Sussex ar y diwrnod cyntaf
- Cyhoeddwyd

Ymhlith batwyr Sussex ddydd Sul roedd Danial Ibrahim sy'n 16 oed
Roedd dydd Sul yn ddiwrnod da iawn i fowlwyr Morgannwg ar ddechrau eu gêm bedwar diwrnod yn erbyn Sussex yn Hove.
Dewisodd y tîm cartref fatio yn gyntaf mewn amodau cymylog.
Timm van Gugten y troellwr oedd seren Morgannwg gan gipio tair wiced am 26 rhediad. Cipiodd Michael Hogan ddwy wiced arall am 33.
Roedd y dydd wedi ei gyfyngu i 55 pelawd oherwydd y glaw. Ar ddiwedd y chwarae roedd Sussex yn 161 am saith wiced a Morgannwg wedi ennill dau bwynt bowlio.