Cynnydd 'brawychus' mewn hunluniau ar reilffyrdd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a swyddogion rheilffyrdd yng Nghymru yn rhybuddio am gynnydd brawychus mewn hunluniau "hynod beryglus" ar y cledrau.
Mewn un achos, cafodd plentyn bach ei roi ar groesfan rheilffordd ar gyfer llun.
Mae delweddau a fideos tebyg wedi bod yn ymddangos fwyfwy ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Network Rail bod 433 o ddigwyddiadau difrifol wedi'u hadrodd ers dechrau'r pandemig.
Maen nhw wedi ymuno â Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Thrafnidiaeth Cymru i lansio ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y peryglon.
"Nid oes unrhyw lun yn werth y risg i chi na'r canlyniadau i'ch teulu," meddai'r Arolygydd Richard Powell.
"Mae chwarae o gwmpas ar groesfannau gwastad - gan gynnwys aros i dynnu lluniau - yn anghyfreithlon ac yn hynod beryglus. Gallech gael eich cymryd i'r llys a wynebu dirwy o £1,000."
Dywedodd swyddogion y rheilffyrdd fod fideos a lluniau wedi eu gweld dros filiwn o weithiau ar TikTok, Instagram a Snapchat.
Dywedodd Ronnie Gallagher o Network Rail fod yr ymgyrch sy'n cael ei lansio ddydd Mercher yn ymwneud ag annog "pobl yng Nghymru i ystyried gwir gost cymryd risg ar groesfan rheilffordd".
Dywedodd Jody Donnelly, gyrrwr trên gyda Thrafnidiaeth Cymru, ei bod hi a llawer o'i chydweithwyr wedi gorfod delio â "channoedd o ddigwyddiadau brawychus ac weithiau trasig ar groesfannau gwastad".
"Mae'n ymddangos bod pobl yn meddwl na fydd y gwaethaf yn digwydd iddyn nhw - ond os cewch eich dal ar groesfan, nid yw hynny'n wir.
"Yn wahanol i geir, gall trenau gymryd cannoedd o fetrau i stopio wrth deithio ar gyflymder uchaf, gan olygu y gall penderfyniad i bicio ar draws y cledrau fod yn angheuol."