Ateb y Galw: Yr actores Leah Gaffey
- Cyhoeddwyd
Yr actores a'r cyflwynydd Leah Gaffey sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Mirain Iwerydd yr wythnos diwethaf.
Mae Leah yn actores sy' wedi ymddangos mewn sioeau theatr gan gynnwys Llyfr Glas Nebo, Little Red Riding Hood, Othello, Jekyll & Hyde, The Fall, Mrs Reynolds A'r Cena Bach. Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Leah hefyd wrth ei bodd yn cyflwyno rhaglen Stwnsh Sadwrn ar S4C ac yn un o gyfarwyddwyr cwmni theatr Snippet.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod ar ffarm Blaenddol efo Nain a gweld tylluan wen yn hedfan uwch fy mhen yn y beudy mawr.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Beyoncé. Ma' gin i ddigon o egni i fod yn hi am y dydd. Siŵr 'swn i'n dysgu un neu ddau o betha' am sut i ddawnsio a chanu yn well 'fyd - 'sa hynna reit handi!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Copa unrhyw fynydd yn Eryri. Dyma lun o Grib Nantlle o gopa Mynydd Mawr yn yr eira 'Dolig dwytha.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Amhosib dewis ond os fysa rhaid - ma' noson braf a sych yn Glastonbury yn eitha' anhygoel. Oedd gweld Beyoncé ar lwyfan Pyramid yn brofiad bythgofiadwy yn 2011.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gormod o hwyl!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Meddwl am faint o hwyl ges i yn teithio efo dau o'n ffrindia gorau yn ne ddwyrain Asia 'chydig o flynyddoedd yn ôl. Ma' nhw'n ddau ffrind doniol iawn. Nes i ddim stopio chwerthin.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan dwi'n cal enwau pobl yn anghywir o hyd. Dwi'n grêt efo wynebau ond ddim enwau.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn gwylio episode ola' Feel Good ar Netflix.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dechrau tasg a dim ei orffen a prynu gormod o ddillad.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n gwrando lot ar bodlediad am fwyd o'r enw Off Menu efo James Acaster a Ed Gamble. Dwi'n aml yn gwrando tra'n rhedag a dwi'n chwerthin yn uchel - mae o'n hileriys! Dwi'n starfio fel arfar ar ôl cyrradd adra achos ma' nhw'n disgrifio'r holl fwyd anhygoel 'ma. Y penodau gora ydi efo Claudia Winkleman a Susie Essman.
Mae podlediad am gelf o'r enw Talk Art yn wych hefyd efo Russell Tovey a Robert Diament - yn enwedig y bennod efo Princess Julia - dynes ddiddorol iawn!
Dwi wrthi'n darllen llyfr bywgraffiadol Andre Leon Talley The Chiffon Trenches - eicon yn y byd ffasiwn. A'r ffilm orau sydd wedi aros yn y cof yn ddiweddar ydi Lucky - mae'n dilyn bywyd ysbrydol dyn 90 oed mewn tref fach mewn anialwch sy'n llawn cymeriadau quirky gan gynnwys cameo gan David Lynch!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Taid Blaenddol. Mi farwodd yn ifanc iawn. Ond o be' dwi 'di glywed gan Mam a Nain mi roedd yn ddyn hyfryd ac yn swnio'n eitha' tebyg i mi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wedi bod yn gweithio ar brosiect unigryw efo'r National Theatre ers chwe mlynedd a blwyddyn nesa' mi fydd 'na fodd gweld y sioe yn y theatr yn Llundain a dwi methu aros i rannu'r gwaith efo'r byd!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Swn i'n trefnu gŵyl efo'r holl artistiaid sydd wedi chwarae'r legend slot yn Glastonbury… Lionel Richie, Kylie Minogue, Stevie Wonder, Dolly Parton, Lady Gaga ayb. 'Swn i'n gwahodd fy holl ffrindau a theulu a 'sa ni'n dawnsio drwy'r dydd a mi fysa 'na lot o fwyd anhygoel a diod ar gael drwy'r dydd!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun o Prince yn perfformio mewn gig yn KOKO, Llundain. O'n i mor lwcus i weld fy arwr yn perfformio efo'i fand Third Eye Girl cyn iddo farw yn 2016.
Beth ti'n edrych ymlaen at ei wneud fwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Cael y gallu i deithio eto a'r stop cynta' fydd Barcelona i ymweld â fy ffrind gora' achos dwi heb ei weld ers bron i ddwy flynedd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ffion Emyr.