'Rhwystr rhag buddsoddi mewn cwmni electroneg'

  • Cyhoeddwyd
Newport Wafer FabFfynhonnell y llun, Newport Wafer Fab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ardal Dyffryn, yng Nghasnewydd

Cafodd Llywodraeth Cymru eu hatal rhag buddsoddi mwy yn safle microsglodion electroneg mwyaf y DU.

Fe roddodd gweinidogion fenthyciad o £13m yn 2017 i gwmni Newport Wafer Fab (NWF) - arian sydd bellach wedi ei ad-dalu wedi i gwmni Nexperia brynu'r busnes ddechrau'r mis.

Mynegodd Aelodau Seneddol Ceidwadol a Llafur bryderon mewn cysylltiad â diogelwch gwladol gan mai cwmni o China, sy'n cael ei gefnogi gan lywodraeth y wlad, yw prif berchennog Nexperia.

Mae Boris Johnson wedi gofyn i'w ymgynghorydd diogelwch gwladol archwilio'r cytundeb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnyrch arloesol y cwmni'n hanfodol mewn dyfeisiadau electroneg - o ffonau 5g i geir trydanol

Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ei safle yn ardal Dyffryn, yng Nghasnewydd.

Mae gan Nexperia bencadlys yn Yr Iseldiroedd a safle tebyg i'r un yng Nghymru ym Manceinion.

Ddechrau'r wythnos dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd bwriad i ymyrryd yn y cytundeb gyda Nexperia, ond roedd yn ymddangos bod yna dro pedol yn fuan wedi hynny.

Dywedodd Mr Johnson wrth ASau ddydd Mercher: "Rhaid i ni asesu a yw'r pethau maen nhw'n eu cynhyrchu o wir werth a diddordeb eiddo deallusol i China [ac] a oes yna oblygiadau diogelwch.

'Synnu braidd'

Daeth sylwadau Mr Johnson wrth ateb cwestiynau un o bwyllgorau San Steffan, ac un o'r rhai i'w holi oedd cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Materion Tramor, Tom Tugendhat.

Ar raglen Politics Wales dywedodd Mr Tugendhat ei fod "wedi synnu braidd na ofynnwyd i'r ymgynghorydd diogelwch gwladol i adolygu'r cytundeb yn gynt.

"Yn sicr, nid wyf yn meddwl bod angen i ni wrthod pob buddsoddiad o China. Does dim problem o gwbl gyda buddsoddiadau mewn seilwaith sydd, yn syml, yn creu elw.

"Ond o ran unrhyw beth sy'n ymwneud â throsglwyddiadau technegol seilwaith gwladol hanfodol, rwy'n meddwl bod angen i ni fod yn ymwybodol o beth sy'n mynd ymlaen a gwneud penderfyniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwestiynau i'w hateb, medd AS Dwyrain Casnewydd, Ruth Jones

Mae'r safle yn etholaeth Dwyrain Casnewydd. Dywedodd yr AS Llafur, Ruth Jones: "Rwyf angen sicrwydd bod y prif weinidog a'i lywodraeth wedi archwilio'r cytundeb yma a'u bod yn hyderus nad oes bygythiad i ddiogelwch gwladol y DU.

"Mae'r swyddi yn bwysig ac rydym eisiau sicrhau bod swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda'n aros yma yng Nghasnewydd ond mae angen i ni hefyd warchod budd y wlad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cytundeb diweddaraf yn golygu bod benthyciad Llywodraeth Cymru wedi ei ad-dalu

Dydy "cwestiynau ehangach" yn ymwneud â diogelwch gwladol "ddim, mewn gwirionedd, yn fater i Lywodraeth Cymru", yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Ond mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod swyddogion wedi bod "mewn trafodaethau gyda chyfarwyddwyr blaenorol NWF ynghylch eu cynlluniau at y dyfodol am dros flwyddyn, a chael cyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol arbenigol ar opsiynau i gefnogi'r busnes."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un testun pryder yw'r prinder lled-ddargludyddion (semiconductors) ar draws y byd ar hyn o bryd

Ychwanegodd: "Fodd bynnag, roedd cytundeb rhwng prif gyfranddalwyr NWF ar y pryd ac yna'r cyfranddaliwr llai, Nexperia, yn rhoi hawliau cyfreithiol penodol i Nexperia oedd yn gwneud hi'n anymarferol i fuddsoddwyr newydd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fuddsoddi mwy yn y busnes."

Yn ôl cadeirydd ymadawol NWF, Dr Drew Nelson, fe wnaeth y cytundeb ar gyfer y safle helpu diogelu ei ddyfodol, a gwaith cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors) yng Nghymru.