Glaw'n atal y chwarae rhwng Morgannwg a Northants
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i'r chwarae ddod i ben yn gynnar yng Ngerddi Sophia oherwydd y tywydd ar ddiwrnod agoriadol gêm Morgannwg yn erbyn Northants ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Erbyn i'r glaw gyrraedd am 14:45 roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 128 am bedair wiced, ar ôl galw'n gywir a dewis batio'n gyntaf.
Fe gawson nhw ddechrau addawol i'w batiad gan sgorio 40 o rediadau cyn i fowliwr Morgannwg, Timm van der Gugten gipio wiced Emilio Gay am 22.
Aeth ymlaen i gipio wicedi'r capten, Ricardo Vasconcelos (25) a Rob Keogh (12).
Charlie Thurston (36) a Saif Zaib (18) fydd yn ailgydio yn y batiad pan fydd y gêm yn ailddechrau am 11:00 ddydd Llun.
Bydd van der Gugten (3-35) a Michael Neser (1-30) yn gobeithio achosi gymaint o drafferthion i'r batwyr ag y gwnaethon nhw ddydd Sul.
Ond beth bynnag y canlyniad, mae'r ddau dîm yn chwarae i adfer balchder, gan wybod y bydd y ddau'n symud i Adran Dau'r bencampwriaeth ar ei newydd wedd.