Cyfeirio heddwas yn dilyn fideo o ffrwgwd wrth arestio
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu wedi cyfeirio ei hun at y corff sy'n ymchwilio i honiadau yn erbyn swyddogion wedi i fideo ddod i'r amlwg sy'n dangos ffrwgwd rhwng heddwas a dyn.
Cafodd y fideos eu rhannu ar-lein gan grŵp Black Lives Matter yn ne Cymru, sy'n dweud bod y swyddog wedi bod yn rhy llawdrwm.
Mae Heddlu Gwent wedi cydnabod y digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Gwener, a dweud nad yw'r swyddog mewn rôl weithredol am y tro.
Dywedodd y llu bod cysylltiad swyddogion gyda'r dyn yn cael ei adolygu, a bod y digwyddiad wedi'i gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Tom Harding bod swyddogion wedi mynd i'r digwyddiad yng Nghasnewydd ar 9 Gorffennaf i "wneud ymholiadau ynghylch adroddiad o ddyn yn gyrru tra'i fod wedi'i wahardd".
Ychwanegodd y datganiad: "Cafodd dyn 41 oed o Gasnewydd ei ganfod a'i arestio ar amheuaeth o yrru tra'i fod wedi ei wahardd a gyrru heb yswiriant."
Dywedodd bod y dyn wedi ei gyhuddo ac fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd yn ddiweddarach.
'Deall pryderon y gymuned'
Ychwanegodd: "Cafodd y dyn hefyd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys ac atal swyddog yn eu gwaith.
"Fe gafodd ei ryddhau dan ymchwiliad mewn cysylltiad â'r troseddau yma."
Dywedodd ei fod yn ymwybodol o fideo yn dangos un o swyddogion y llu sy'n cael ei rannu ar-lein, a bod "Heddlu Gwent yn trin pob adroddiad o'r fath yn ddifrifol iawn".
"Nid yw'r swyddog dan sylw yn gweithio mewn rôl weithredol wrth i ymchwiliad barhau," meddai'r datganiad.
"Rydyn ni'n deall pryderon y gymuned ac rydym yn y broses o adolygu ein holl gysylltiad gyda'r unigolyn.
"Yn y cyfamser rydyn ni'n cyfeirio'r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fel sy'n arferol i sicrhau archwiliad annibynnol."