Gwlad yr Haf yn rhoi cweir i Forgannwg yn y T20
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg gweir gan Wlad yr Haf yn y T20 nos Wener, wrth i'r Cymry golli o 74 rhediad yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth yr ymwelwyr osod targed o 182 i Forgannwg, gyda Devon Conway yn sgorio 70 heb fod allan wrth helpu ei dîm at gyfanswm o 181-5.
Roedd hynny'n sgôr llawer rhy heriol i Forgannwg, gafodd eu bowlio allan am 107.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn wythfed allan o naw tîm yn eu hadran nhw yn y T20, gyda thair buddugoliaeth o 13 gêm.