Cyhuddo dyn ifanc o dreisio ym Mharc Bute Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o dreisio yn dilyn ymosodiad rhyw honedig ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod yr ymosodiad wedi digwydd yn oriau mân y bore ddydd Iau.
Cafodd fideo camera cylch cyfyng ei gyhoeddi yn dilyn y digwyddiad, ac wedi hynny dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio'r dyn ifanc.
Mae'r dyn, o ardal Cathays, bellach wedi'i gyhuddo o dreisio ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.