Penodi Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Noel MooneyFfynhonnell y llun, CBD Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noel Mooney wedi bod yn gweithio gyda UEFA ers 2011

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai Noel Mooney sydd wedi ei benodi fel y Prif Weithredwr newydd.

Bydd Mr Mooney yn ymuno a'r Gymdeithas o UEFA, lle mae o wedi bod yn gweithio ers 2011, yn fwyaf diweddar fel pennaeth datblygiad strategol y corff sy'n rheoli'r gamp yn Ewrop.

Yn wreiddiol o Cappamore yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae o hefyd yn gyn-chwaraewr sydd wedi cynrychioli clybiau fel Limerick, Cork City a Shamrock Rovers yn ystod ei yrfa.

Bydd yn olynu Jonathan Ford wnaeth adael ei swydd ar ddiwedd mis Mawrth, yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn gynharach yn y flwyddyn.

Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd Mr Mooney: "Yn ystod y bennod nesa', mi fyddwn ni'n ceisio sicrhau bod pêl-droed yng Nghymru yn parhau i esblygu, yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd a pharhau i fod yn llwyddiannus.

"Mae'r nod yn gwbl glir, a dwi'n methu aros i allu dechrau gweithio gyda phobl o fewn y gamp yng Nghymru er mwyn galluogi ni i gyrraedd ein potensial."

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar 30 Awst.