Jonathan Ford i adael CBDC ddiwedd y mis

  • Cyhoeddwyd
Jonathan FordFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd Jonathan Ford yn gadael ei swydd fel prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 31 Mawrth.

Fe wnaeth y Gymdeithas gadarnhau'r newyddion mewn datganiad, ond heb roi'r rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad.

Dywed y datganiad na fydd y Gymdeithas yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.

Ar 22 Chwefror fe wnaeth cyngor y Gymdeithas gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Ford.

Deellir ei fod wedi bod ar gyfnod o absenoldeb o'i swydd ers hynny.

Cafodd Mr Ford ei benodi'n brif weithredwr yn 2009 a dywed y Gymdeithas fod eu proffil o ran pêl-droed Ewrop a'r Byd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod.

'Cofnodi diolch'

Mae'r datganiad hefyd yn cyfeirio at ddatblygu safleoedd "hyfforddi o safon ryngwladol" yng Nghasnewydd, Wrecsam a Hensol, ger Caerdydd.

Dywed y Gymdeithas eu bod am gofnodi eu diolch i Mr Ford "am ei ymdrechion dros y 11 mlynedd gan ddymuno'r gorau iddo yn y dyfodol".

Fe wnaeth y Gymdeithas hefyd nodi eu llwyddiant yn ystod y cyfnod wrth ddenu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 a chystadlaethau eraill UEFA.

Cyfeiriwyd hefyd at lwyddiannau tîm cenedlaethol y dynion yn cyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016, cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020, a sicrhau dyrchafiad i grŵp y detholion yng Nghynghrair y Cenhedloedd.