Anafiadau difrifol wedi ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn cael ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl ymosodiad honedig mewn parc yng Nghaerdydd fore Mawrth.
Credir bod yr anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Bute yng nghanol y ddinas ar ôl "adroddiadau o ymosodiad," yn ôl Heddlu De Cymru.
Ychwanegon nhw eu bod nhw wedi cael eu galw i Barc Bute am 01:10 ddydd Mawrth.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y byddan nhw'n dechrau cloi mynedfeydd i'r parc unwaith eto yn sgil digwyddiadau "difrifol iawn" yno dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea o Heddlu'r De: "Roedd hwn yn ymosodiad treisgar a pharhaus ar y dyn, sydd wedi cael anafiadau sy'n peryglu'i fywyd.
"Ry'n ni gwybod fod nifer o bobl yn yr ardal ac ym Mharc Bute ar y pryd, felly os wnaeth unrhyw un weld y digwyddiad neu wedi clywed beth ddigwyddodd, dewch ymlaen os gwelwch yn dda.
"Mae ystafell ddigwyddiad wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Canol Caerdydd, ac ry'n ni'n awyddus i gael unrhyw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad."
Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100254215. Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555 111.
Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu ailddechrau cloi mynedfeydd allweddol i'r parc yn sgil dau ddigwyddiad "difrifol iawn" yno yn ddiweddar.
"Mae ein meddyliau gyda'r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau diweddar ym Mharc Bute," dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.
"Cyn y pandemig, roedd mynedfeydd allweddol canol y ddinas i Barc Bute yn cael eu cloi bob nos gyda machlud yr haul.
"Mae'r parc yn ofod cyhoeddus agored, mawr ac er nad yw'n bosib atal mynediad yn llwyr gyda'r nos, yn dilyn dau ddigwyddiad difrifol yn y parc yn ddiweddar, bu penderfyniad i ddychwelyd yn syth i'r drefn o'i gloi."
Mae rhan fawr o'r parc wedi cael ei gau i'r cyhoedd wrth i'r heddlu ymchwilio i'r achos, yn cynnwys y bont rhwng Gerddi Sophia a Pharc Bute.
Mae safle caffi Servinis hefyd ar gau, yn ogystal â'r fynedfa i'r parc o Ffordd y Castell.