Steve Cooper yn gadael ei swydd fel rheolwr Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Steve CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Cooper yn enedigol o Bontypridd a bu'n chwarae dros sawl clwb yn Uwch Gynghrair Cymru cyn troi'n hyfforddwr

Mae Steve Cooper wedi gadael ei swydd fel rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi dwy flynedd yn y swydd.

Ers cael ei benodi yn 2019 mae Cooper, 41, wedi llwyddo i arwain y clwb i gemau ail gyfle Y Bencampwriaeth yn ei ddau dymor wrth y llyw.

Ond roedd sôn y byddai'n gadael wedi iddyn nhw golli i Brentford yn rownd derfynol ym mis Mai.

Mae'n debyg fod cyn-brif hyfforddwr tîm dan-17 Lloegr wedi dweud wrth y clwb ei fod am adael, a hynny flwyddyn cyn diwedd ei gytundeb.

Cyllideb dynn

Bu pryderon ganddo am gryfder y garfan wedi i'r ymosodwr Andre Ayew adael yn yr haf, yn ogystal â chwaraewyr oedd ar fenthyg fel Freddie Woodman a Marc Guehi.

Mae'r clwb eisoes wedi bod yn ystyried pobl allai gymryd yr awenau.

Roedd sïon wedi bod am ddyfodol Cooper ers sbel, gyda Crystal Palace a Fulham wedi ystyried ceisio ei benodi yn ddiweddar.

Llwyddodd i orffen yn chweched ac yna'n bedwerydd yn y gynghrair yn ei ddau dymor gyda'r Elyrch, er ei fod yn gweithio i gyllideb gymharol dynn o'i gymharu â chlybiau eraill yn yr adran.

Roedd Cooper yno ar gyfer gêm gyfeillgar Abertawe yn erbyn Plymouth yr wythnos hon, ond roedd datganiad gan y clwb yn dweud bod y ddwy ochr wedi cytuno y byddai'n gadael rhyw bythefnos yn ôl.

Yn y datganiad dywedodd Cooper fod yr Elyrch yn "glwb gwych gyda chefnogwyr gwych" wrth ddymuno'r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.

Dywedodd prif weithredwr y clwb, Julian Winter bod disgyn o'r Uwch Gynghrair wedi golygu fod yn rhaid i'r clwb fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, a bod Cooper wedi rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc y clwb yn gyson, a diolchodd iddo am ei gyfraniad.