Awyrennau 'di-garbon' erbyn canol y ganrif
- Cyhoeddwyd
Bydd Airbus yn cynhyrchu awyrennau sydd ddim yn allyrru carbon erbyn canol y ganrif, yn ôl un o benaethiaid eu ffatri yn Sir y Fflint.
Dywedodd Gareth Davies bod safle Brychdyn yn "arbennig o bwysig" i'r cwmni wrth edrych tua'r dyfodol.
Yn sgil pwysau'r pandemig, mae tua 1,000 o weithwyr wedi gadael y ffatri ac mae oriau gwaith gweddill y staff wedi cael eu cwtogi.
Ond mae nifer yr adenydd sy'n cael eu cynhyrchu yno yn fisol wedi dechrau cynyddu yn araf wedi cwymp enfawr y llynedd.
Yn ôl Mr Davies, sy'n bennaeth pensaernïaeth adenydd ar brosiect Wing of Tomorrow, mae angen datblygiadau pellach cyn bydd modd hedfan yn ddi-garbon, ond mae'n ffyddiog y bydd hynny'n digwydd erbyn 2050.
"Mae ganddon ni her symbolaidd heddiw i geisio cyrraedd cynnyrch di-allyriadau erbyn tua 2050," meddai.
"Bydd cyflawni hyn yn anodd, ond dyna ein her. I bob pwrpas, rydyn ni'n edrych at ganol y ganrif, ac y bydd ganddon ni [erbyn hynny] beiriannau yn hedfan efo'r targed a'r nod hwnnw."
Cyn y pandemig, roedd tua 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn, ond y llynedd cyhoeddodd Airbus eu bod yn bwriadu cael gwared â thua 1,400 o swyddi. Ers hynny, mae 1,000 wedi gadael yn wirfoddol, ac ym mis Chwefror cytunodd y gweithlu i gwtogi eu horiau gwaith 10% er mwyn osgoi diswyddiadau pellach.
Mae Mr Davies, er hynny, yn credu bod Brychdyn yn parhau'n "arbennig o bwysig" i Airbus yn ehangach.
"Mae llawer mwy yn digwydd yma nag adeiladu adenydd yn unig. Mae ganddon ni'r bobl, yr egni, y talent, yr arloesedd sydd wedi galluogi Brychdyn i fod yn gartref cynhyrchiant adenydd Airbus am amser maith iawn.
"Nawr rydyn ni'n dod â llawer o bobl ifanc i mewn… llawer o sgiliau ifanc, llawer o ffyrdd ifanc o feddwl. Mae hynny'n rhoi rhywbeth i Frychdyn mae Airbus wirioneddol yn chwilio amdano.
"Felly ydy hwn yn lle pwysig yn strategol? Ydy. Ond ydyn ni'n cymryd unrhyw beth yn ganiataol? Na."
Brychdyn 'yma am ddegawdau'
A hithau'n 80 mlynedd ers sefydlu ffatri Brychdyn, dywedodd uwch ddirprwy lywydd Airbus, Paul McKinlay y bydd y safle'n gweithredu am ddegawdau.
"Mae rheswm i gredu y bydd pobl yn eistedd yma mewn 80 mlynedd, yn dathlu llwyddiant parhaus y ffatri, Airbus yn y DU a'n cwmni gwych," meddai.
"Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau ein bod yn llwyddo fel cwmni, yn arloesi, yn datblygu awyrennau gwyrdd a bod ein ffatrïoedd yn y DU yn llwyddiannus ac yn parhau'n gystadleuol, a bod Brychdyn yn rhan fawr o hynny ac yn arloesi ar gyfer adenydd y dyfodol."
Wrth edrych tuag at y genhedlaeth nesaf o weithwyr, bydd Airbus yn derbyn 80 prentis newydd ym Mrychdyn yn y misoedd nesaf. Mae 91 arall wedi gorffen eu hyfforddiant eleni, gan gynnwys y peiriannydd Carwyn Roberts, 22 o Drefnant, Sir Ddinbych.
"Dwi'n meddwl bod 'na fwy o bwyslais ar ein cenhedlaeth ni, am mai ni fydd yma pan fydd y cwmni'n datblygu mwy yn y degawdau nesaf," meddai.
"Ac mae 'na lot o syniadau'n dod gan y genhedlaeth ifanc ar sut mae gwneud Airbus yn fwy gwyrdd."
Yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor, mae Airbus mewn "lle iach" wrth iddyn nhw roi pwysau ar y cwmnïau sy'n prynu eu hawyrennau i lynu at eu cytundebau o'r cyfnod cyn y pandemig.
"Ond mae 'na dal ansicrwydd ar sut effaith mae hyn yn ei gael ar swyddi yma ym Mhrydain," ychwanegodd.
"Mae'n rhaid i ni gofio bod Airbus yn gwmni Ewropeaidd mawr, ac fe wneith y busnes ailstrwythuro i wneud yr elw mwyaf posib. Felly os ydy hynny'n golygu cynhyrchu mwy mewn gwledydd eraill - Ffrainc neu Sbaen - yna bydd hynny'n costio swyddi yma ym Mhrydain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020