Dyblu capasiti ysgol Gymraeg gydag adeilad newydd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Sant BarucFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, lle i tua 210 o ddisgyblion sydd yn Ysgol Sant Baruc

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau i symud ac ymestyn ysgol gynradd Gymraeg yn Y Barri.

Fe wnaeth y cynghorwyr gefnogi'r cynllun i gael adeilad newydd i Ysgol Sant Baruc fel rhan o'r datblygiad yn ardal y Glannau yn y dref.

Bydd lle i thua 420 o ddisgyblion ar y safle newydd, o'i gymharu â'r tua 210 o lefydd sydd yno ar hyn o bryd.

Er mai'r gobaith gwreiddiol oedd y byddai'r ysgol yn barod erbyn Medi eleni, yn dilyn oedi i'r penderfyniad y disgwyl bellach yw y bydd yn barod ar gyfer Medi 2022.

Pynciau cysylltiedig