Carcharu bridiwr anghyfreithlon am dorri clustiau cŵn bach
- Cyhoeddwyd
Mae bridiwr cŵn anghyfreithlon a dorrodd clustiau cŵn bach er mwyn codi mwy o arian amdanyn nhw wedi cael dedfryd o garchar.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd bod Christopher Mae, sy'n 32 oed ac o Gaerdydd, wedi achosi i ddau gi ddioddef heb fod angen wrth dorri eu clustiau.
Plediodd yn euog i bedwar o gyhuddiadau ac fe gafodd ddedfryd o 16 wythnos o garchar.
Bydd yn rhaid iddo dalu dros £11,000 mewn costau, sy'n cynnwys dirwyon a chost cartrefu ei gŵn.
Clywodd y llys bod y cŵn werth rhwng £1,000 a £1,500 yn uwch o ganlyniad i'r arfer sy'n anghyfreithlon yn y DU.
Roedd Mae yn gwerthu cŵn trwy dudalen Facebook o'r enw Bulletproof Bullies, gan godi rhwng £1,000 a £5,000 yn un, "yn ddibynnol ar ansawdd a strwythur yr esgyrn".
Clywodd y llys nad oedd ganddo drwydded i fridio. Plediodd yn euog i gludo ci o'r enw George i'r DU a allai fod wedi cael ei gludo o China neu Sbaen.
Ymchwiliodd swyddogion cyngor y dudalen Facebook a darganfod sawl cyfeiriad at fridio cŵn a chynnig cŵn a chŵn bach ar werth.
Pan gafodd ei gartref ei archwilio fe ddaethpwyd o hyd i wyth ci ac wyth ci bach.
Roedd clustiau pob un o'r cŵn hŷn wedi eu torri.
Datgelodd cofnodion milfeddygol bod dros 60 o gŵn wedi eu cofrestru.
Clywodd y llys bod gan Mae bum gast a dau gi bridio, a'i fod wedi datblygu ffordd o fridio cŵn i sicrhau lliwiau neilltuol.
Roedd George yn cael trafferth cerdded pan gafodd ei archwilio.
Cafodd y cŵn eu hatafaelu a bu'n rhaid rhoi tri o'r cŵn a dau gi bach oedd heb basportau mewn cwaratîn.
Cafodd Mae ei atal rhag cadw unrhyw anifeiliaid am wyth mlynedd a'i atal rhag gwneud cais i ddidymu'r gorchymyn hwnnw am bum mlynedd.
Clywodd y llys bod Mae yn gwerthu cŵn "i bobl annymunol". Roedd 13 o euogfarnau wedi eu cofnodi yn ei erbyn mewn cysylltiad â 21 o droseddau blaenorol rhwng 2004 a 2017 gan gynnwys ymosod, meddu ar gyffur, twyll, trafod nwyddau wedi eu dwyn a difrod troseddol.