De Affrica 17-22 Llewod

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cicio cywir y Cymro Dan Biggar yn allweddol yn y fuddugoliaeth

Llwyddodd y Llewod i ennill y prawf cyntaf ar eu taith i Dde Affrica ar ôl dod yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth allweddol.

Ar ôl hanner cyntaf bo giciau cosb, fe daniodd yr ornest yn yr ail hanner gyda sawl penderfyniad agos yn mynd at y dyfarnwr teledu.

Ciciodd maswr Cymru, Dan Biggar 14 o bwyntiau'r ymwelwyr cyn gadael y maes yn yr ail hanner yn dilyn ergyd i'w ben.

Ac er gwaethaf pwysau hwyr, llwyddodd y Llewod i atal De Affrica rhag cipio'r canlyniad gyda phwyntiau hwyr.

Dechrau araf i'r Llewod

Ar ôl i dîm 'A' De Affrica guro'r Llewod 10 diwrnod yn ôl, dechreuodd enillwyr Cwpan y Byd y prawf cyntaf swyddogol yr un mor addawol.

Llwyddodd Handre Pollard gyda'i gic gosb gyntaf, cyn dyblu'r cyfanswm wedi trosedd ddwl gan Tom Curry.

Munud yn ddiweddarach tarodd maswr Cymru, Dan Biggar, yn ôl gyda phwyntiau cyntaf y Llewod, ond ar ôl cam drafod yn ardal y dacl, llwyddodd Pollard gyda dwy gic arall i ymestyn y sgôr.

Ym mhum munud olaf yr hanner cyntaf, methodd Biggar ac Elliot Daly giciau cosb i adael y sgôr ar hanner amser yn 12-3.

Luke Cowan-Dickie yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Luke Cowan-Dickie oedd sgoriwr cais y Llewod

Daeth y Llewod allan yn yr ail hanner gyda thân yn eu boliau, ac ar ôl dewis mynd am lein yn hytrach nag at y pyst o gic gosb, daeth cais gyntaf y gyfres o'r diwedd.

Sefydlodd y crysau cochion sgarmes symudol ac fe gafodd y bachwr Luke Cowan-Dickie ei ddwylo ar y bêl i dirio, gyda Biggar yn llwyddo gyda'r trosiad.

Bu bron i'r Springboks daro yn ôl yn syth wrth i Willie Le Roux groesi, ond cafodd y cais ei wrthod yn ddadleuol gan y dyfarnwr teledu - Marius Joncker o Dde Affrica - am fod Le Roux yn camsefyll o drwch blewyn o gic Lukhanyo Am.

Funudau'n ddiweddarach fe aeth penderfyniad Joncker i'r cyfeiriad arall, wrth iddo ddyfarnu nad oedd y bêl wedi mynd ymlaen yn arwain at gais Faf de Klerk.

Daeth y cyfle yn dilyn bylchiad gan chwaraewr y flwyddyn, Poeter-Steph du Toit, ac amddiffyn blêr gan y Llewod wrth i De Klerk dirio am gais o gic ddeallus Makazole Mapimpi.

Faf de KlerkFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mewnwr De Affrica, Faf de Klerk hefyd gais yn yr ail hanner

Ond methodd Pollard gyda'r trosiad, ac fe wnaeth rhediad cryf gan Courtney Lawes greu problemau i Dde Affrica cyn i'r Llewod gau'r bwlch i un pwynt yn dilyn rhagor o giciau cosb llwyddiannus gan Biggar.

Parhaodd y Llewod i bwyso, ac fe aethon nhw ar y blaen am y tro cyntaf gyda 17 munud i fynd wrth i Biggar lwyddo o'r ystlys chwith gyda'i bedwerydd cic gosb.

Yn fuan wedyn, gadawodd Biggar y cae i gael arolwg i'r pen ar ôl gwrthdrawiad cas, ac yna fe groesodd Damian De Allende y llinell gais i Dde Affrica.

Ond ar ôl cyfeirio at y dyfarnwr teledu eto, penderfynwyd bod y bêlwedi ei tharo ymlaen gan Cheslin Kolbe yn gynharach yn y symudiad, ac fe gafodd y cais ei wahardd.

Gyda'r cloc yn tician, llwyddodd Owen Farrell i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Llewod gyda chic gosb arall a'i gwneud hi'n sgôr terfynol o 17-22.

Mae'r Llewod wedi ennill yn Cape Town felly am y tro cyntaf ers 1997, ac yn mynd ar y blaen o 1-0 yn y gyfres.

Pynciau cysylltiedig