Ymosodiad Parc Bute: Cyhuddo dau ddyn o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Car a fan heddlu tu fas caffi Servini ym Mharc Bute
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 01.10 fore Mawrth, ac mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth

Mae dau ddyn bellach wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad difrifol mewn parc yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 54 oed ei anafu'n wael yn y digwyddiad ym Mharc Bute yn oriau man fore Mawrth, ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Prifysgol Cymru.

Bydd Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36 - y ddau o Gaerdydd - nawr yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun mewn cysylltiad â'r ymosodiad.

Mae Heddlu'r De yn dweud eu bod yn parhau i chwilio am drydydd person, sef dynes, maen nhw'n amau o fod yn rhan o'r digwyddiad.

"Roedd hwn yn ymosodiad difrifol ac yn amlwg wedi achosi pryder yn yr ardal," meddai'r Ditectif Arolygydd Stuart Wales.

"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd bod sawl un o'n ymholiadau'n parhau. Rydyn ni'n benderfynol o ddwyn unrhyw un oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad milain hwn i gyfrif.

"Mae cyhuddo'r ddau ddyn yma yn dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd pwysig a hoffwn ddiolch am gymorth y cyhoedd sydd wedi sicrhau hyn."

Ychwanegodd fod y llu yn parhau i apelio am unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw, yn enwedig am y ddynes maen nhw'n parhau i chwilio amdani.

"Dim ond mater o amser yw e nes y byddwn ni'n ei hadnabod hi a dod o hyd iddi," meddai.