'Dwi eisiau byw fy mywyd yn ddibryder fel pawb arall'

  • Cyhoeddwyd
Callum Lea
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymosododd criw o fechgyn ar Callum Lea yng Nghaerdydd yn gynharach eleni oherwydd ei rywioldeb

"Dwi ddim eisiau jest bodoli. Dwi eisiau bod yn hapus. Dwi eisiau mynegi fy hun yn y ffordd yr ydw i eisiau a dwi ddim eisiau teimlo'n gyfyngedig."

Mae Callum Lea o Gaerdydd eisiau byw heb eraill yn ei feirniadu a heb orfod disgwyl y bydd o'n cael ei ddifrïo oherwydd ei rywioldeb.

Mae Callum, 26, wedi profi homoffobia, gan gynnwys nifer o ymosodiadau, ac mae o'n meddwl bod angen mwy o drafodaeth ac addysg am faterion LHDTC+.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn proses ymgynghori ar gynlluniau sydd â'r nod o sicrhau taw Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

'Teimlo embaras'

Fe gafodd Callum ei anafu yn ystod ymosodiad yng Nghaerdydd yn gynharach eleni.

"Roedd 'na grŵp o fechgyn ddechreuodd weiddi pethau, a galw fi'n bob un gair homoffobaidd dan haul," meddai.

Gwthiodd y bechgyn Callum i'r llawr a dechrau cicio cefn ei ben.

"Roedd gennai bob math o farciau ar fy nghorff a chleisiau. Ges i concussion a whiplash ac roedd yr holl beth yn drawmatig iawn.

"Ro'n i'n teimlo embaras, doeddwn i ddim eisiau i bobl eraill weld fod rhywun wedi fy nghuro fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Callum yn awyddus i weld mwy o ymwybyddiaeth ac addysg am faterion LHDTC+

Nid ymosodiadau corfforol yn unig sy'n brifo. Dywed Callum ei fod wedi dod i arfer gyda sylwadau, pobl yn syllu, a micro-ymosodiadau.

Mae'n dweud fod yn well ganddo gerdded ar y stryd ar ei ben ei hun fel nad ydy ffrindiau na theulu'n gorfod gweld pobol yn "syllu" neu'n "chwerthin" arno.

"Dwi jest eisiau gallu byw fy mywyd, yn ddibryder, fel pawb arall," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn ystyried mynd i'r siop i nôl llaeth a gorfod paratoi i gael sylwadau cas neu fod rhywun am ymosod arnyn nhw. Dyw hynny ddim yn ffordd i fyw."

Mae Callum yn credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg am faterion LHDTC+, a bod angen i aelodau'r gymuned LHDTC+ fod "yn rhan o'r sgwrs."

'Sefyllfa anghyfforddus'

Mae Bethan Gallivan, 23, yn astudio yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedi profi micro-ymosodiadau yn y gweithle.

"Mae o braidd yn awkward fel person cwiar pan chi'n dechrau swydd, a ddim wedi dod mas i'n cyd-weithwyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfres o sylwadau bach yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl LHDTC+, medd Bethan Gallivan

"Maen nhw wedi dweud pethau homoffobig, nid amdanaf fi, ond am bobl eraill, ond yn ei ddweud o fy mlaen i, yn cymryd yn ganiataol mod i'n syth.

"Mae'n rhoi fi mewn sefyllfa anghyfforddus fel person hoyw fy hun. Dwi'n teimlo os ydw i yn sefyll lan amdanyn nhw, ydw i yn owtio fy hun wrth eu hamddiffyn nhw i berson sy' amlwg ddim yn licio pobl hoyw?"

Mae cyfres o sylwadau bach, meddai, yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl LHDTC+.

"Chi bron yn self-conscious ac yn hyper-vigilant ac mae'n neud i chi deimlo nad ydy'r gwaith yn le diogel, ac wedyn chi'n teimlo bod yn rhaid i chi mute-io dy hun," meddai.

Cuddio'u rhywioldeb

Mewn arolwg yn 2020 gan Stonewall Cymru, dywedodd 78% o bobol LHDTC+ a gafodd eu holi yng Nghymru, eu bod wedi ceisio cuddio eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhyw am eu bod yn poeni am ymateb negyddol gan eraill.

Dywedodd 46% o'r bobl LHDTC+ eu bod wedi cael profiad o aflonyddu geiriol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ymgynghoriad ar eu Cynllun Gweithredu LHDTC+ ac yn gobeithio cael ymateb gan bobl drwy'r wlad.

Nod y cynllun, a gafodd ei ddatblygu gydag aelodau'r gymuned LHDTC+, yw "cydlynu gweithredu rhwng y llywodraeth, rhan-ddeiliaid, y cyhoedd ac asiantaethau eraill" yn ôl y llywodraeth.

Mae'r cynllun yn cynnwys:

  • Sicrhau bod hawliau pobl LHDTC+ yn cael eu "cydnabod" yn y sector cyhoeddus yng Nghymru;

  • Ceisio datganoli pwerau'n ymwneud â chydnabod rhywedd a chefnogi'r gymuned traws;

  • Defnyddio holl bwerau'r Senedd i wahardd pob agwedd o therapi trosi;

  • Sicrhau perthynas gref rhwng pobl LHDTC+ a'r heddlu, a chynnal adolygiad o'r tangofnodi troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+;

  • Cynllunio cwricwlwm cynhwysol LHDTC+ a sicrhau fod colegau a phrifysgolion yn llefydd cynhwysol i bobl LHDTC+.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd y cynllun ei lansio gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, a ddywedodd bod ei phrofiadau hi fel dynes hoyw wedi helpu'r broses.

"Mae'n flaenoriaeth wleidyddol i Lywodraeth Cymru ond mae'n bersonol i fi hefyd a dwi'n falch iawn o gael bod mewn safle i yrru hyn ymlaen," meddai.

Ychwanegodd fod y cynlluniau yn "uchelgeisiol iawn" a bod Llywodraeth Cymru'n gobeithio trafod y cynlluniau gyda "gymaint o bobl â phosib".

"Rydym yn gwybod nad ydi'r frwydr am gydraddoldeb drosodd," meddai.

"Mae 'na wastad fwy i'w wneud, ac mae lansio'r Cynllun Gweithredu yn rhoi'r cyfle i bawb, ledled y wlad, i'n helpu ni i gyrraedd ein nod i sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop."

Disgrifiad o’r llun,

Lu Thomas yw cadeirydd panel arbenigol a ysgrifennodd adroddiad sy'n sail i gynllun Llywodraeth Cymru

Fe gafodd y cynllun gweithredu ei lunio wedi adroddiad gan banel arbenigol annibynnol, sydd wedi cynnig nifer o argymhellion.

"Rydym yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio polisïau LHDTC+ cynhwysol gyda'r bwriad o gael gwared â gwahaniaethu, ac i dorri'r rhwystrau yr ydym yn dal i'w hwynebu, ac mae hynny'n galonogol," meddai cadeirydd y grŵp, Lu Thomas.

"Yn bersonol rydw i'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am roi'r parch a'r gefnogaeth i ni 'sgwennu'r adroddiad yma yn annibynnol gan fod rhannau ohoni yn gryf - realaeth beth fyddai'n ei olygu, os ydan ni wir am daclo hyn.

"Mae'n rhaid i ni ddathlu unrhyw lywodraeth sy'n gweithio gyda chymuned leiafrifol sy'n dweud eu bod nhw am i ni arwain Ewrop.

"Mae'n rhaid i ni gefnogi hynny. Mae cael yr uchelgais yn fan cychwyn arbennig."

Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Wyn yw rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil elusen Stonewall Cymru

Mae elusen LHDTC+ Stonewall Cymru wedi croesawu'r ymgynghoriad am y cynllun.

"Mae'r argymhellion yn eang iawn ac yn cwmpasu nifer fawr o wahanol feysydd polisi," meddai Iestyn Wyn, rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil yr elusen.

"Mae bob un o'r meysydd polisi yna yn cyffwrdd bywyd person LHDTC+, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod be ydy'r heriau yn y meysydd polisi gwahanol yno, fel bod Llywodraeth Cymru'n gallu cymryd y camau priodol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio tuag at gael gwlad sy'n ddiogel i bobl LHDTC+ a'u bod nhw wedyn yn gallu ffynnu."

Pynciau cysylltiedig