Y cyhoeddwr llyfrau a'r awdur Roger Boore wedi marw yn 82
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyhoeddwr llyfrau a'r awdur Roger Boore wedi marw yn 82 mlwydd oed.
Sefydlodd Wasg y Dref Wen yng Nghaerdydd gyda'i wraig Anne yn 1969, gyda'r nod yn bennaf o gyhoeddi llyfrau Cymraeg o safon uchel i blant.
Fe wnaeth hefyd drosi llawer o lyfrau plant i'r Gymraeg o amryw ieithoedd gan gynnwys cyfrolau gwreiddiol Asterix a Tintin a'r clasur Y Teigr a Ddaeth i De.
Cafodd yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru, Tlws Mary Vaughan Jones yn 1997 am ei gyfraniad i'r maes.
Cafodd hefyd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd a'u urddo â'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016.
Dywed ei deulu y bydd ei waddol "yn parhau trwy lyfrau Gwasg y Dref Wen sydd wedi dod â chymaint o fwynhad i filoedd o blant Cymru dros y degawdau".
'Dim ond y gorau sy'n ddigon da i blant Cymru'
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a'i fagu ar aelwyd di-Gymraeg yn Lloegr. Cafodd radd yn Rhydychen a mynd ymlaen i fod yn gyfrifydd siartredig.
Dywedodd ei deulu ei fod "yn angerddol am y Gymraeg", gan ddysgu'r iaith yn ei arddegau "wedi i'w deulu ar ochr ei fam a'i Dad golli'r iaith i raddau helaeth cyn ei eni".
Aeth ati gyda'i wraig i sefydlu Gwasg Y Dref Wen ar ôl sylweddoli, wrth fagu teulu ifanc drwy'r Gymraeg, "cyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael i blant, a pha mor llwm oedd eu diwyg".
Roedd yna bwyslais felly o'r dechrau ar gyhoeddi llyfrau lliwgar storïol, ond fe esblygodd y wasg i gyhoeddi llyfrau addysgol a llyfrau dwyieithog maes o law.
Dywed y teulu mai "mantra Dad wrth ddechrau Dref Wen oedd 'dim ond y gorau sydd yn ddigon da i blant Cymru' ac mae'n siŵr wrth glywed hynny yn rheolaidd ac atgofion eraill am y llyfrau cynnar yma, fod Roger wedi cyrraedd y safon hwnnw".
'Athrylith'
Mae cyhoeddiadau'r wasg dan ei reolaeth ryn cynnwys Y Geiriadur Lliwgar, cyfresi Storïau Hanes Cymru a Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen - "yr un yr oedd Dad yn fwyaf prowd ohono".
"O holl waith Dad, mae'n debyg taw ei drosiad o lyfrau Asterix sydd yn dangos cymaint o elfennau ei gymeriad gorau.
"Roedd athrylith y fersiynau Cymraeg yn dangos gallu ieithyddol, hiwmor, ffraethineb fy Nhad ond hefyd ei natur ddiymhongar."
Ei feibion, Gwilym, Rhys ag Alun sy'n rhedeg y wasg ers ei ymddeoliad yn 1999.
Enillodd Roger Boore gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen 1972.
Fe wnaeth hefyd gyhoeddi casgliad o straeon byrion, nofel i blant a chyfres o bum llyfr taith yn croniclo hanesion ei deithiau tramor.
"Yn amlwg bydd bwlch enfawr yn ein bywydau wedi marwolaeth sydyn Dad," medd datganiad y teulu.
"Er hynny rydym yn ffodus fod bywyd a gwaddol Dad yn parhau trwy lyfrau Gwasg y Dref Wen sydd wedi dod â chymaint o fwynhad i filoedd o blant Cymru dros y degawdau."