Caerdydd: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd.
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i farwolaeth "sydyn" dynes 47 oed mewn eiddo yn ardal Trowbridge Green o'r ddinas.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi mynd i'r eiddo o gwmpas 14:30 ddydd Iau, 29 Gorffennaf.
Mae teulu'r wraig wedi cael eu hysbysu, ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddog cyswllt yr heddlu.
Nid yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Ond maen nhw'n gofyn i unrhyw un all fod â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru, gan nodi rhif y digwyddiad *265924.