Dynes wedi ei hanafu gan rasel tu ôl i boster cam-wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Layla Stokes yn dweud ei bod wedi dioddef "briw dwfn iawn"
Mae dynes o Gaerdydd wedi dweud iddi gael ei hanafu gan lafn rasel wedi'i lynu i gefn poster cam-wybodaeth am Covid-19, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd Layla Stokes, 21, ei bod wedi scrwnsio'r poster melyn gwrth-fwgwd a gweld "llawer o waed" yn dod allan o'i llaw.
Cafodd y poster ei ddarganfod ger croesfan ar Heol y Bont-faen yn Nhreganna, Caerdydd, nos Fawrth.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Roedd Ms Stokes yn siopau yn Nhreganna pan sylwodd ar y poster a oedd yn "proffesu rwtsch gwrth-Covid," meddai, felly penderfynodd ei dynnu i lawr ac i roi "rhywbeth gwell yn ei le nes 'mlaen".
Mae Ms Stokes yn arlunydd sticeri ac yn creu bob mathau, gan gynnwys rhai i "frwydro yn erbyn y llanw o wybodaeth anghywir".

Dywedodd Ms Stokes ei bod yn flin ar ôl gweld y poster cam-wybdoaeth yng Nghaerdydd

Dyma'r llafn rasel oedd wedi'i lynu i gefn y poster
'Mewn anghrediniaeth'
Dywedodd ei bod mewn "anghrediniaeth" am beth oedd wedi'i lynu i gefn y poster.
"Ro'n i'n meddwl mai chwedl oedd bod cael llafnau y tu ôl i sticeri; ni alla i gredu ei fod wedi digwydd i mi," meddai.
Dywedodd ei bod wedi rhedeg adref i lanhau'r "briw dwfn iawn" a'i bod bellach wedi gweld meddyg i brofi'r briw am unrhyw afiechydon.

Dywedodd Ms Stokes nad oedd rhai pobl yn credu ei bod wedi cael ei hanafu gan y llafn rasel
Mae hi wedi derbyn ymateb cymysg i'r digwyddiad ar Trydar. Roedd rhai yn dymuno iddi wella'n fuan, ond roedd eraill yn dweud ei bod yn ei haeddu - "dylet fwyta'r llafn rasel," meddai un. Roedd rhai hyd yn oed yn honni ei bod yn dweud celwydd.
"Dwi'n teimlo os ydych chi am ddweud rhywbeth a'i roi ar sticer, yna dwi ddim am eich rhwystro chi. Ond peidiwch â'i wneud i frifo rhywun - gallai wedi bod yn blentyn," meddai.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn edrych ar luniau teledu cylch cyfyng.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021