Hediadau rhwng Cymru a'r Alban i ailddechrau
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni hedfan yn dechrau llwybr rhanbarthol newydd yn cysylltu Cymru â'r Alban o ddydd Llun.
Bydd hediadau Loganair o Gaerdydd i Gaeredin yn rhedeg bum gwaith yr wythnos.
Daw ar ôl i'r cwmni hedfan Flybe fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth 2020, gan olygu bod llawer o lwybrau rhanbarthol yn y DU - gan gynnwys rhwng Caerdydd a Chaeredin - wedi'u colli.
Wrth siarad ym mis Mai, dywedodd Kay Ryan o gwmni hedfan yr Alban, Loganair, y byddai'r llwybr newydd yn llenwi'r bwlch a adawyd gan Flybe.
Dywedodd y byddai'r llwybr newydd yn "caniatáu i aelodau teulu ddod at ei gilydd yn ogystal â galluogi pobl i fwynhau seibiant haeddiannol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2020