Covid-19: 864 o achosion newydd wedi'u cofnodi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
swabFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 864 o achosion newydd o Covid-19 wedi cael eu cofnodi dros y 48 awr ddiwethaf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Cafodd tair marwolaeth yn gysylltiedig â'r coronafeirws eu cofnodi.

Mae'n golygu mai 246,205 yw cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'n pandemig a 5,626 yw cyfanswm y marwolaethau, yn ôl dull ICC o gofnodi.

Mae cyfradd achosion Cymru dros saith diwrnod wedi gostwng i 318.7 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Siroedd yn y gogledd sy'n parhau â'r cyfraddau uchaf, sef Sir Ddinbych (318.7), Conwy (225.3) a Wrecsam (199.3).

Chwe sir sydd â chyfradd is na 100, sef Ceredigion (81.2), Blaenau Gwent (87.3), Sir Benfro (88.2), Sir Gaerfyrddin (88.5), Sir Fôn (92.8) a Bro Morgannwg (96.6).