Arestio tri ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth bachgen

  • Cyhoeddwyd
parc pandy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Sarn am 05:45 fore Sadwrn

Mae'r heddlu wedi arestio tri o bobl ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth bachgen pump oed.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen yn Afon Ogwr ger Parc Pandy yn ardal Sarn fore Sadwrn.

Cafodd dyn 39 oed, menyw 30 oed a bachgen 13 oed - i gyd o Ben-y-bont - eu harestio ddydd Sul.

Dywed Heddlu'r De nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 05:45 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi marw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion fforensig wedi eu gweld yn yr ardal fore Llun

Dywedodd y Prif Arolygydd Geraint White ei fod yn "ddigwyddiad trasig", gan apelio am wybodaeth gan unrhyw un allai fod wedi gweld y digwyddiad.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd beidio trafod yr achos ar wefannau cymdeithasol gan fod yr ymchwiliad yn parhau", meddai.

"Os oes gyda chi wybodaeth allai helpu, rhowch wybod i ni."