Rhybudd am stormydd yn rhannau o ogledd Cymru ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio gall glaw trwm achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr mewn rhai ardaloedd o'r gogledd ddydd Sul.
Bydd y rhybudd mewn grym o 00:00 ddydd Sul tan 21:00 nos Sul, a bydd yn effeithio ar ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fôn a Wrecsam.
Gall hyd at 40mm o law syrthio yn yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio'n wael.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio gall mellt fod yn berygl ychwanegol, yn enwedig yn y prynhawn.
Nid yw'r rhybudd melyn am stormydd a oedd mewn grym ddydd Sadwrn bellach yn berthnasol i Gymru.