Colled i Forgannwg, ond yn dal ar frig y grŵp
- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes Morgannwg yn eu gêm grŵp olaf yn y Cwpan Undydd yn erbyn Sir Efrog.
Er y golled, llwyddodd y sir o Gymru i aros ar frig y grŵp gan sicrhau gêm gartref yn y rowndiau terfynol.
Roedd dewis maesu yn ymddangos yn benderfyniad da pan alwodd Morgannwg yn gywir fore Iau, a chyn pen dim roedd yr ymwelwyr wedi colli pedair wiced.
Ond yna daeth partneriaeth bwysig o 83 am yr wythfed wiced rhwng Jonathan Tattersall a Matthew Waite i roi cyfanswm o 230 i Sir Efrog, a hynny mewn llai na'r 50 pelawd oedd ar gael iddyn nhw.
Cafodd Morgannwg ddechrau campus i'w batiad nhw gyda Hamish Rutherford a Nick Selman yn sgorio 121 am y wiced gyntaf.
Ond pan aeth Rutherford am 58 ac yna Selman am 92, doedd fawr ddim cefnogaeth i'r ddau.
Collodd Morgannwg bentwr i wicedi sydyn, gan arafu'r sgorio, ond er bod digon o wicedi ar ol, roedd yr amser yn brin.
Roedd angen wyth rhediad o'r bedair pelen olaf i ennill, ond yn hytrach fe gipiodd yr ymwelwyr ddwy wiced arall i sicrhau buddugoliaeth glos o bedwar rhediad.
Canlyniad
Sir Efrog - 230 (48.5 pelawd)
Morgannwg 226 am 8 (50 pelawd)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021