Ofn ffermwr ar ôl cyfres o ddamweiniau ffordd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma'r foment pan wnaeth car droi drosodd ar ôl dod oddi ar y ffordd i dir y fferm

Mae tri digwyddiad brawychus o geir yn gadael prif ffordd ar gyflymder wedi ysgogi galwadau am fesurau diogelwch ychwanegol.

Gwnaeth Llyr Gruffydd AS ei sylwadau ar ôl ymweld â fferm sydd wedi'i lleoli o dan ffordd yr A494 rhwng Corwen a Rhuthun.

Ar dri achlysur yn y misoedd diwethaf, mae ceir wedi gadael y briffordd, gan fynd trwy'r gwrych a dod i lawr i'r fferm Kevin Peacock yn Llais yr Afon ar gyflymder.

Mewn dau achos, maen nhw wedi cael eu dal ar deledu cylch cyfyng (CCTV) y fferm, gydag un car yn troi drosodd mewn un digwyddiad hwyr y nos.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwelliannau wedi'u gwneud i arwyddion a marciau ffordd ger y safle, ond y byddan nhw'n parhau i adolygu'r angen am fesurau pellach.

'Gweithredu cyn i rywun gael ei ladd'

Dywedodd y ffermwr o Bandy'r Capel: "Dyma'r trydydd digwyddiad mewn tri mis. Rwy'n wirioneddol bryderus am ddiogelwch fy nheulu gan fod y ceir hyn yn dod i lawr ar ein dreif mor gyflym.

"Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am y gefnffordd yma, i weithredu cyn i rywun gael ei ladd yma.

"Nid yw paentio 'araf' ar y ffyrdd wedi cael unrhyw effaith ar gyflymder - rwyf am weld rhywbeth fydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth i amddiffyn fy nheulu."

Ffynhonnell y llun, Kevin Peacock
Disgrifiad o’r llun,

Car (gyda goleuadau yn y pellter) yn dod oddi ar y ffordd, drwy'r gwrych ac i dir fferm Kevin Peacock

Dywed Mr Peacock y bu problemau ar y ffordd ers cryn amser ond mae pethau wedi gwaethygu ar ôl i gamerâu cyflymder cyfartalog gael eu gosod ar rannau o'r A5 mewn ymgais i ffrwyno goryrru.

"Mae'n ymddangos ei fod wedi trosglwyddo'r broblem i'r A494," meddai Mr Peacock.

Dywed fod gan y darn hir syth o'r ffordd derfyn cyflymder o 60mya ar hyn o bryd - ac mae'n teimlo bod angen lleihau hynny i 40 neu 50mya.

"Cawsom ni un [gyrrwr], ganol mis Chwefror neu fis Mawrth, daeth y car drwyddo a glaniodd o fewn tua 20 metr i'r tŷ," ychwanegodd Mr Peacock.

"Roedd wedi colli rheolaeth ar y troad ac erbyn iddo geisio ei gywiro, roedd wedi saethu trwy'r gwrych, mynd trwy gwpl o gatiau, pyst, popeth, glanio ar ei do a mynd yn ôl drosodd ar ei olwynion.

"Mae gennym wyrion sy'n dod atom ni bob wythnos ac mae'n bryder eu cael nhw y tu allan."

'Cyflymder dychrynllyd'

Ychwanegodd Llyr Gruffydd, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru: "Mae rhai o'r gyrwyr yn teithio mor gyflym fel eu bod yn dod trwy'r gwrych ac i lawr y clawdd i'r fferm ar gyflymder dychrynllyd. Ni fyddai unrhyw un a ddigwyddodd fod yno yn sefyll unrhyw siawns.

"Rwy'n cytuno â Mr Peacock bod risg wirioneddol i fywyd yma.

"Mae angen gosod rhwystrau i atal hynny rhag digwydd o leiaf ac mae angen adolygiad trylwyr i wneud y darn hwn o'r A494 yn fwy diogel i drigolion lleol a defnyddwyr ffyrdd eraill.

"Dyna pam rwy'n gwahodd y Gweinidog Trafnidiaeth i ymweld â'r safle ac i adolygu'r lluniau fideo fel y gellir cymryd camau brys."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ddiweddar wedi gwella arwyddion a marciau ffordd yn y lleoliad hwn ond byddwn yn parhau i adolygu'r dystiolaeth i gefnogi unrhyw fesurau pellach.

"Rydyn ni'n adolygu cofnodion swyddogol yr heddlu am wrthdrawiadau yn gyson ac yn blaenoriaethu safleoedd ble mae'r dystiolaeth yn amlygu'r angen am fesurau ychwanegol."

Pynciau cysylltiedig