Atal llygredd o hen fwynfeydd metel yn 'joban enfawr'
- Cyhoeddwyd
Gallai'r gost o geisio atal y llygredd gwaethaf o rai o hen fwynfeydd metel Cymru fod dros £280m, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae dros 1,300 o hen safleoedd ar draws y wlad ac mae glaw trwm yn medru cario mwynau fel plwm, sinc a chadmiwm i nentydd cyfagos gan wenwyno bywyd gwyllt.
Ond ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth i geisio datrys y sefyllfa bron i 20 mlynedd yn ôl, un safle'n unig sydd wedi ei drin yn llawn, medd y Ceidwadwyr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynnu bod llawer o waith eisoes wedi ei wneud.
Nentydd llygredig
Mae cloddio am fwynau fel copr, plwm, arian ac aur wedi digwydd yng Nghymru ers yr Oes Efydd.
Ond fe arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at gynnydd mawr mewn cloddio yma.
Yn ei anterth, mae haneswyr yn amcangyfrif bod 25% o'r holl blwm oedd yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain yn dod o Gymru ac roedd 43% o'r holl sinc ym Mhrydain yn cael ei gynhyrchu yma.
Un o'r lleoliadau oedd Mwynglawdd ger Coedpoeth, Wrecsam. Plwm a sinc oedd rhai o'r mwynau fu'n cael eu cloddio yno cyn belled yn ôl ag oes y Rhufeiniaid.
Ond heddiw mae gwelyau nifer o'r nentydd sy'n bwydo Afon Clywedog yn oren llachar.
Mae dyddodion oren hefyd wedi casglu ar y cerrig, gwreiddiau a'r bonion coed ar y lan.
Pan gyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd strategaeth yn 2002 i geisio atal y llygredd o safleoedd fel hyn, cafodd Minera ei nodi fel un lleoliad ble roedd modd dod i gytundeb rhwng partneriaid i fwrw ymlaen.
Ond hyd yma, ychydig sydd wedi digwydd yno.
129 safle 'arbennig o niweidiol'
Cyfoeth Naturiol Cymru sydd bellach yn gyfrifol am y gwaith o geisio atal y llygredd.
Dywedodd Peter Stanley o'r corff: "Wrth ddefnyddio system goleuadau traffig, rydym wedi nodi 129 o safleoedd mwyngloddio coch a 140 o rai ambr."
Gallai delio gyda'r safleoedd arbennig o niweidiol yn unig gostio oddeutu £282m.
Ac yn ôl Lisa Tomos o CNC, gallai pob safle unigol gymryd tua 40 mlynedd i'w wneud yn gwbl ddiogel.
"Mae hi'n joban enfawr. Mae lot o waith wedi cael ei wneud," meddai.
"Y gwaith tawel sy'n digwydd ydy'r atal dŵr rhag mynd mewn i'r mwynfeydd yma.
"Ond mewn adegau o law mawr 'dan ni'n anffodus yn gweld bod dŵr yn ffeindio ffordd."
Mae CNC yn gweithio gyda'r Awdurdod Glo sydd ag arbenigedd yn y maes, ac yn ddiweddar wedi derbyn £5m gan Lywodraeth Cymru.
"Mae ariannu wedi bod yn heriol cyn 2016. Mae pob un safle mewn llefydd anodd - maen nhw'n anghysbell ac maen nhw mewn llefydd sensitif."
Yn ôl Paul Davies, Aelod Ceidwadol o'r Senedd ym Mhreseli Penfro, dylai rhagor fod wedi ei wneud ledled y wlad.
"Mae e'n holl bwysig bod Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod yr adnoddau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa yma," meddai.
"Mae e bron a bod 20 mlynedd ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r strategaeth yma a dim ond un cynllun adfer mawr sydd wedi ei gwblhau yn yr amser yna.
"Felly mae Llywodraeth Cymru'n siarad gêm dda iawn pan ddaw hi i newid hinsawdd, ond dyw eu rhethreg nhw ddim yn sefyll lan i realiti'n anffodus."
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig ry'n ni wedi darparu £9.5m er mwyn parhau i wella safon dŵr yn ein hafonydd a'n llynnoedd.
"Ry'n ni hefyd wedi sefydlu bwrdd i ystyried rhaglen adferiad mwynfeydd metel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo.
"Rydym yn dal i wynebu rhai heriau sylweddol o ran rheoli dŵr, ac er y gallwn ddelio gyda rhai o'r heriau yma o'r gorffennol - megis cemegau hanesyddol - fe fydd eraill yn effeithio ar ein hamgylchedd dŵr am ddegawdau i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021