Y Bencampwriaeth: Peterborough 2-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Aden Flint ddwy gôl hwyr - yr ail yn y funud olaf un - gan helpu Caerdydd i sicrhau gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Peterborough.
Bu'n rhaid i'r Adar Gleision frwydro i gipio'r pwynt ar ôl ildio dwy gôl o fewn munudau tua dechrau'r ail hanner.
Ond roedden nhw'n ffodus i unioni'r sgôr yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi rheoli rhannau helaeth o'r gêm.
Flint gafodd un o gyfleoedd gorau'r hanner cyntaf, wedi croesiad gan Joel Bagan, ond fe beniodd y bêl dros y trawst.
O gofio perfformiad campus yr Adar Gleision wrth guro Blackpool oddi cartref dros y penwythnos, roedd hi'n hanner cyntaf siomedig ond fe barodd y gêm yn ddi-sgôr tan yr egwyl.
Fe newidiodd trywydd y gêm yn ddramatig yn fuan yn yr ail hanner pan sgoriodd Peterborough ddwywaith - Harrison Burrows wedi 49 o funudau a Siriki Dembele ddau funud yn ddiweddarach.
Daeth Marlon Pack yn agos at daro'n ôl yn fuan wedi hynny, gan gael y gorau ar y golwr ond i'w ymdrech fynd fodfeddi ochr anghywir y postyn chwith.
Roedd hi'n dalcen caled am gyfnod i dîm Mick McCarthy, er i Kieffer Moore ymuno â'r chwarae.
Ond yna daeth lygedyn o obaith pan sgoriodd Flint gyda pheniad o groesiad Pack wedi 83 o funudau.
Wedi hynny fe wnaeth chwaraewyr Caerdydd bopeth posib i gadw'r pwysau ar y gwrthwynebwyr, ac fe gawson nhw eu gwobr pan sgoriodd Flint eto i unioni'r sgôr, bron gyda chic olaf pum munud ychwanegol y gêm.
Mae Caerdydd yn syrthio o'r trydydd i'r pumed safle yn y tabl gyda phum pwynt wedi tair gêm.