Yr Wyddfa: Galw ar gerddwyr i 'barchu'r mynydd'

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn ciwio i gyrraedd copa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddwyr wedi bod yn ciwio am hyd at 45 munud i gyrraedd copa'r Wyddfa yn ddiweddar

Mae 'na alwadau ar gerddwyr ar Yr Wyddfa i "barchu'r mynydd" wrth i effaith cynnydd yn nifer ymwelwyr ddod i'r amlwg.

Erbyn hyn mae tua 700,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn ac ym mis Gorffennaf roedd adroddiadau fod ciwiau o hyd at 45 munud i gyrraedd copa'r mynydd.

Dywedodd John Harold, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, sy'n helpu i gynnal a chadw'r mynyddoedd, fod y lleoliad wedi dod yn "bot mêl" i gerddwyr.

Ond o ganlyniad, dywedodd fod pwysau'r broblem sbwriel ac erydiad llwybrau bellach yn "sylweddol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Harold yn bryderus am y pwysau y mae'r ymwelwyr ychwanegol wedi ei roi ar Yr Wyddfa

"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod mynediad i lefydd hardd ac arbennig fel Yr Wyddfa wedi bod yn bwysig i bobl yn fwy nag erioed yn ddiweddar, ond mae'r pwysau sydd wedi dod yn wirioneddol sylweddol," meddai Mr Harold.

"Sbwriel, erydiad llwybrau, gwersylla gwyllt, traffig, parcio - mewn ffordd, nid yw'r un o'r rhain yn newydd ond maen nhw i gyd wedi gwaethygu'n sydyn iawn yn ystod y 18 mis diwethaf."

Rhybuddiodd hefyd nad yw llawer o bobl yn cyrraedd wedi paratoi'n iawn i gerdded i'r copa 1,085 metr (3,560 troedfedd).

"Os ewch chi i fyny mynydd fel Yr Wyddfa heb baratoi, heb offer priodol, neu gyda disgwyliadau amhriodol, dydych chi ddim yn mynd i'w fwynhau cymaint ag y gallech chi, ac rydych chi o bosib yn mynd i'w adael mewn cyflwr gwaeth nag y dylech chi."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 700,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn

Dywedodd y cerddwr mynydd Elfed Williams mai eleni ydy'r "gwaethaf rwy'n ei gofio" o ran torfeydd.

"Yn amlwg, Yr Wyddfa yw'r gwaethaf oherwydd mae pawb eisiau mynd i fyny'r Wyddfa, ond mae'n ofnadwy a dweud y gwir," meddai.

"Y ciw ar y copa a'r sbwriel maen nhw'n ei adael ar eu hôl. Pe bai'r trên yn mynd i'r copa a'r caffi ar agor, rwy'n credu y byddai dwbl nifer y bobl yno."

'Rhai yn gwisgo fflip-fflops'

Ychwanegodd fod y gostyngiad sylweddol mewn teithio tramor wedi golygu bod pobl ar staycations wedi mentro i'r mynydd - nid "yr un math o bobl" y mae wedi arfer dod ar eu traws.

"Dydyn nhw ddim yn fynyddwyr nac yn feicwyr mewn gwirionedd," meddai.

"Nhw ydy'r bobl, dwi'n meddwl, sydd fel arfer yn mynd i Sbaen neu beth bynnag am eu gwyliau. Dydyn nhw methu mynd rŵan gyda'r Covid wrth gwrs, felly maen nhw wedi penderfynu aros yn y DU a dod i Gymru.

"Wrth gwrs mae pawb yn cael mynd i fyny'r mynydd, allwch chi ddim stopio neb, ond fe allwch chi weld bo' nhw ddim wedi arfer cerdded ar fynydd o'r dillad maen nhw'n eu gwisgo.

"Rydw i wedi gweld rhai, coeliwch neu beidio, gyda fflip-fflops. 'Dach chi'n rhoi cyngor iddyn nhw ond dydyn nhw ddim eisiau gwybod chwaith. Dwi'n dweud dim bellach, does dim pwynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfed Williams yn ofni bod y gwasanaethau achub yn gorfod ymateb i sefyllfaoedd y mae modd eu hosgoi

Ychwanegodd bod hynny wedi arwain at lawer o ddamweiniau ac anafiadau ar y mynydd, gan roi pwysau ar y gwasanaethau brys.

"'Dach chi'n cael yr hofrennydd allan a'r achubwyr mynydd allan - gallai rhywun fod mewn gwir anhawster yn rhywle arall, wedi disgyn neu rywbeth, ac mae'r hofrennydd yn mynd i achub rhywun sy'n gwisgo fflip-fflops."

Neges Mr Williams i bobl sy'n ystyried ymweld yw: "Dewch ar bob cyfrif ond parchwch y mynydd, os gwelwch yn dda."