'Rhaid parchu pobl ac anifeiliaid cefn gwlad'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhaid parchu'r pobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad achos dyma eu lle gwaith nhw ac hefyd parchu'r anifeiliaid sy'n byw yng nghefn gwlad."
Dyma neges Wyn Evans, sy'n ffermio ger Aberystwyth yng Ngheredigion, i'r ymwelwyr sy'n dod i gefn gwlad dros yr haf.
Mae disgwyl fydd ardaloedd glan môr a gwledig Cymru yn brysurach nag erioed eleni ac mae hyn yn cael effaith os nad yw ymwelwyr yn parchu'r ardal, yn ôl Wyn: "Ni wedi gweld cŵn yn lladd defaid ar y fferm eleni - bydden i ddim ishe gweld hynny eto. Gollon ni saith o ddefaid bryd 'na.
"Digwyddodd e ar noswyl calan ac 'oedd y defaid hanner ffordd trwy eu pregnancy so oedd e'n trawmatig i bawb.
"Ni wedi gweld cynnydd (mewn ymwelwyr) ac wrth gwrs mae mwy o bobl eisie mynd ar wylie yn agos i gartre am resymau amlwg.
Cyngor i ymwelwyr
Codwch sbwriel gan fynd â'r sbwriel adre gyda chi.
Gadewch y gatiau fel chi'n ffeindio nhw - os ydy gât ar agor gadewch hi ar agor. Os ydy gât ar gau caewch y gât.
Cadwch anifeiliaid anwes ar dennyn.
"Mae 99 y cant o bobl yn iawn ac ni'n croesawu nhw achos maen nhw'n dod â lot o arian i gefn gwlad. Ni wedi gweld cynnydd yn naturiol mewn pethe fel ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn.
"Ond ni'n gweld cynnydd hefyd yn y bobl sy'n cerdded y llwybrau ac o gwmpas ffermydd.
"Ni wedi cael un neu ddau achos lle mae pobl yn cerdded lle maen nhw ddim fod...ni'n hysbesebu nhw bod nhw'n cerdded yn y lle anghywir ac yn arwain nhw at y llwybr iawn.
"Gathon ni un achos ar y fferm lle gath gât ei adael ar agor a cymysgodd y defaid. Wrth gwrs mae cwpl o oriau'n mynd wedyn yn sortio y problem mas. Dydy pobl ddim cweit yn deall yr oblygiadau sy' gyda nhw.
"Mae'n dod â lot o arian i cefn gwlad - mae ymwelwyr yn dod 'ma ac yn gwario pres yn ein siopau a tafarndai sy' wedi gweld amser caled yn ystod y 18 mis diwethaf. Felly mae hynny'n bositif.
"Os oes pobl yn dod 'ma a pharchu rheolau cefn gwlad a'r canllawiau fel mae 99% yn gwneud, mae hynny yn iawn."
Hefyd o ddiddordeb