Gall enillydd Dinas Diwylliant 'brofi hwb i'r economi leol'

  • Cyhoeddwyd
Bangor, Casnewydd, Conwy, Powys a Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bangor, Casnewydd, Conwy, Powys a Wrecsam wedi mynegi diddordeb ar gyfer 2025

Fe allai'r ardal sy'n dod i'r brig yng nghystadleuaeth Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 brofi hwb fawr i'r economi leol a chyfleodd am dwristiaeth gynaliadwy, yn ôl un arbenigwr.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fod 20 o ardaloedd ym Mhrydain wedi cyflwyno ceisiadau i fod yn Ddinas Diwylliant 2025 - gyda chwarter y rheiny o Gymru.

Bangor a gogledd-orllewin Cymru, Sir Conwy, Sir Wrecsam, Powys a Dinas Casnewydd sy'n arwain y ceisiadau yng Nghymru.

Mi fydd y rhestr o 20 yn cael ei chwtogi yn ddiweddarach eleni cyn dewis enillydd ym mis Mai 2022.

Yn ôl Llywodraeth y DU dyma'r nifer uchaf o ardaloedd i ymgeisio am y teitl.

Nod y gystadleuaeth ydy adlewyrchu hybiau diwylliannol a chelfyddydol tu hwnt i ardal Llundain, gan geisio denu rhagor o ymwelwyr a thwristiaid i'r ardal a chreu bwrlwm economaidd.

'Sgil effeithiau positif a bwrlwm economaidd'

Yn ôl Dr Kelly Young, Darlithydd Rheolaeth Busnes o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, mae bob dinas sydd wedi derbyn y teitl gynt - Derry Londonderry, Hull a Coventry - oll wedi adrodd sgil effeithiau positif a bwrlwm economaidd.

"Mae'r enw a'r teitl wedi helpu nhw creu naws, delwedd y ddinas a bod yn fwy creadigol," meddai.

"Maen nhw wedi gweld hwb cynnydd yn y diwydiannau creadigol, busnesau celf, mwy o dwristiaid a denu rhagor o wyliau.

"Mae hyn yn rhywbeth enfawr i helpu'r economïau hyn i fod yn fwy cynaliadwy.

"Mae hyn yn gallu creu digwyddiadau ac opsiynau sy'n gallu ehangu'r tymor [twristiaeth] yna i ehangu mewn i fisoedd yr hydref ac ati.

"Mae'n bositif ac am gynnal y tymor yn ehangach."

1. Bangor ac ardal gogledd-orllewin Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pier Bangor

Mae cais dinas Bangor hefyd yn cynnwys rhai o ardaloedd chwareli Gwynedd ac yn ymestyn i Ynys Môn ar draws y Fenai. Gyda'r chwareli eisoes wedi derbyn statws Treftadaeth y Byd, pam ddylai Bangor dderbyn y statws newydd hwn?

"Dydy lot o bobl ddim gwybod am yr hanes," meddai Rhian Cahill sy'n gweithio fel Rheolwr Profiad Ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn, Bangor.

"Mae o yn ein gwaed ni yma yng ngogledd Cymru, ym Mangor ac yn yr ardal o'i gwmpas o.

"Mae o'n rhywbeth angerddol a chyfle i rannu ydy hwn. Mae'n creu cymunedau cryf, dyfeisgar.

"Mae'n gyfle anghoel i'r ardal a dwi'n meddwl 'sa ni'n dda iawn yn ei 'neud o."

2. Sir Conwy

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Conwy

Mae cais Sir Conwy yn cynnwys y promenadau Fictorianaidd yn Llandudno a Bae Colwyn, cestyll enwog - hen a newydd fel Conwy a Gwrych - ac yn ymestyn draw am fynyddoedd y dyffryn.

Yn ôl yr ymgeiswyr yma mae'r sir, sy'n boblogaidd ymysg ymwelwyr, yn le delfrydol i dderbyn y teitl.

"Mae pobl yn dod yma yn mwynhau, yn dod i lan y môr, fyny'r mynydd ac yn mynd adra 'nôl," meddai'r Cynghorydd Garffild Lewis, un o'r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am y cais.

"Dwi yn meddwl ein bod ni'n trio cael pobl i ddeall ni'n well. Mae'n siŵr gen i fod 'na elfen o addysgu o ran y Gymraeg a'n diwylliant ni a chael nhw i ymweld â'r cymunedau efallai 'sa nhw ddim yn ymweld â fel arfer.

"Mae 'na berlau yma! Mae'n bwysig bod ni'n denu pobl leol i ymwneud â diwylliant y sir hefyd."

3. Sir Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pontcysyllte, ger Wrecsam

Mae ardal Wrecsam wedi dod i'r amlwg ym mhenawdau'r newyddion ers misoedd bellach ar ôl i sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu'r clwb pêl-droed. Ond yn ôl rhai yn lleol mae dathliadau diwylliannol y dref yn ddyfnach na phêl-droed yn unig.

"Dwi'n meddwl bod Wrecsam yn eithaf eang o ran beth mae pobl eisiau," meddai Llinos Ann Cleary, sy'n un o aelodau bwrdd Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog.

"Yn y Stiwt er enghraifft mae gynno' ni Opera, wedyn Soul night, tribute band, reslo ac wedyn comedian yn dod yma, felly i Wrecsam dyna sydd eisiau - rhywbeth eang, o'r dramâu i'r cyngherddau."

Wrth drafod cais y sir ychwanegodd Llinos ei fod yn gyfle "gwych".

4. Powys

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys

Mae Sir Powys yn cynnwys bron i chwarter o ardal ddaearyddol Cymru gyfan. Mae'n gartref i ddigwyddiadau mawr fel Gŵyl y Gelli, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a'r Sioe Frenhinol. Beth fyddai buddiannau derbyn statws Dinas Diwylliant DU 2025 felly?

"Does ganddo ni ddim dinas a 'dan ni'n ardal wledig ond... 'dan ni'n ddiwylliedig," meddai'r cynghorydd sir, Myfanwy Alexander.

"Yn fy ardal i, yn Nyffryn Banw, ar ôl amaeth a thwristiaeth y trydydd diwydiant pwysicaf ydy'r celfyddydau.

"Mae ganddo ni'r ŵyl llên mwyaf yn y byd a'n bwriad ydy dathlu'r tirlun. Mae ganddo ni dirlun gwych sydd wedi ysbrydoli pobl dros y blynyddoedd a beth ydan ni eisiau ydy rhannu'r ysbrydoliaeth a rhoi Powys ar y map."

5. Casnewydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Casnewydd

Pe bai cais dinas Casnewydd yn llwyddiannus mi fyddai ymgeiswyr yn cynnal digwyddiadau yn y ddinas ond hefyd yn ardal ehangach Gwent.

Gyda hanes hirfaith o brotestiadau enwog a phresenoldeb gan y Rhufeiniaid, beth arall sydd gan Gasnewydd i'w gynnig wrth fentro i ddod yn Ddinas Diwylliant 2025?

Mae Kayley Sydenham yn fyfyrwraig o Gasnewydd ac fe ddaeth i'r brig fel Prifardd Eisteddfod T 2021.

Mae hi'n dweud fod ei bro a'i hardal yn ysbrydoliaeth.

"Mae 'na lot o hanes ar gael yng Nghasnewydd, pethau fel y Rhufeiniad, yr Afon Wysg hefyd.

"Fyddai'n dweud hefyd fod hon yn gyfle i bobl sy'n byw yn yr ardal i ddod i wybod mwy am yr ardal.

"Rhywbeth arall ydy dwi'n credu bod angen mwy o hwb i'r Gymraeg yng Nghasnewydd a falle fyd hwn yn gyfle i fuddsoddi arian mewn gweithgareddau felly."