Cwpan yr EFL: Abertawe 4-1 Plymouth Argyle
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Morgan Whittaker sgorio hat-tric o fewn 11 munud i helpu Abertawe i drechu Plymouth nos Fawrth er mwyn cyrraedd trydedd rownd Cwpan yr EFL.
Cafodd gôl-geidwad Plymouth ei guro am y tro cyntaf wedi hanner awr o chwarae, wrth i ergyd Dan Williams wyro i'r rhwyd ar gyfer ei gôl gyntaf i'r Elyrch.
Ond ar ôl 63 munud roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wrth i Rhys Shirley sgorio gyda foli o groesiad o'r asgell chwith.
Llwyddodd Abertawe i gymryd rheolaeth o'r gêm unwaith eto fodd bynnag, wrth i Morgan Whittaker sgorio gydag ergyd isel gydag 11 munud i fynd.
Parhaodd Whittaker i herio amddiffyn Plymouth ym munudau ola'r gêm wrth i rediad Jamal Lowe greu'r cyfle i rwydo ei ail gôl ar ôl 86 munud.
Llwyddodd i gwblhau ei hat-tric funudau cyn y chwiban olaf wrth iddo orffen yn daclus i selio'r fuddugoliaeth i'r Elyrch.
Bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer y drydedd rownd yn hwyr nos Fercher.