Arestio tri o bobl yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad yng Nghaerdydd dros nos.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 18 oed wedi dioddef anafiadau trywanu yn y digwyddiad yn Sgwâr Callaghan am tua 03:00 fore Sadwrn.
Cafodd anafiadau'r dyn eu disgrifio fel rhai difrifol, ac mae'n parhau yn yr ysbyty.
Ychwanegodd y llu fod tri o bobl - dau ddyn a dynes - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.