300fed gêm i un o Ryfelwyr Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Carfan Rhyfelwyr Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Rhyfelwyr Llanelli

Mae gan hanner tîm Rhyfelwyr Llanelli anabledd corfforol ac mae gan y rhan fwyaf anableddau dysgu. Wrth ddathlu 25 mlynedd eleni, maent yn tyfu o nerth i nerth.

Pan sefydlwyd Rhyfelwyr Llanelli, roedden nhw eisiau cael eu trin fel unrhyw dîm rygbi arall.

Maen nhw'n dîm sy'n croesawu oedolion gydag anableddau dysgu gan gynnwys parlys yr ymennydd, awtistiaeth neu syndrom Down, ac yn hybu creu ffrindiau newydd drwy chwarae rygbi mewn awyrgylch gyfeillgar.

Gwilym Lewis yw un o enwau pwysicaf hanes y tîm, oherwydd ei fod newydd chwarae ei 300fed gêm i'r clwb. Chwaraeodd y Rhyfelwyr yn erbyn Rhydaman, ac ennill o 70-48 ddydd Sadwrn 21ain o Awst.

Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Lewis

"Dros y 25 mlynedd o chwarae dwi'n credu mai dim ond 35 gêm dwi wedi methu," meddai Gwilym ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Erbyn heddiw, mae Gwilym yn rheoli ac yn hyfforddi'r tîm. Mae mor weithgar ag erioed, gan mai fe oedd un o'r rhai a sefydlodd y clwb 25 mlynedd yn ôl.

Dywedodd: "Mae'r clwb yn hynod o bwysig i'r chwaraewyr. I bobl gydag anabledd dysgu, ti'n mynd i ysgol gyda dosbarthiadau bach. Ar ôl yr ysgol maen nhw wedyn yn mynd i brofiad gwaith am ychydig ddiwrnodau neu ddim yn gweithio o gwbl.

"Felly os wyt ti'n tynnu mas pwy ti'n 'nabod o'r ysgol a pwy ti'n 'nabod o'r gwaith, does dim lot o bobl gyda chi fel ffrindiau."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Ddim yn canolbwyntio ar anabledd

Mae Gwilym yn credu bod y clwb yn cynnig mwy na hyfforddiant rygbi: "Mae'r cylch yma o ffrindiau yn hynod o bwysig heb sôn am y mwynhad a'r hyder ti'n gael allan o chwarae.

"Dydy'r tîm yma ddim yn canolbwyntio ar anableddau, maen nhw'n canolbwyntio ar chwarae rygbi. Ac yn cael eu trin fel unrhyw glwb rygbi arall."

Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr y Rhyfelwyr

Rhydian Lewis sydd yn chwarae yn ail-reng yw un o gicwyr mwyaf llwyddiannus y tîm. Mae e wedi chwarae i'r tîm ers 11 mlynedd.

Dywedodd Rhydian: "Mae Gwil yn grêt gyda'r bois. Fe sy'n trefnu ein gemau, dwi'n teimlo'n grêt pan dwi'n chwarae i'r tîm."

Ffynhonnell y llun, Gwilym Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Rhydian a Nathan

Bod yn rhan o deulu rygbi

Gyda'r Rhyfelwyr yn dathlu chwarter canrif eleni, mae llawer o glybiau eraill wedi cael eu sefydlu fel y Chiefs yng Nghaerdydd, Panthers Port Talbort a Sir Benfro. Felly beth yn union sydd yn gwneud y timau yma mor bwysig i'r chwaraewyr?

Mae Nathan Murphy, sydd wedi chwarae ers chwe blynedd i'r Rhyfelwyr, yn credu bod parch a bod yn gynhwysol yn bwysig i bob un o'u chwaraewyr: "Mae'r Rhyfelwyr yn bwysig iawn i mi, dwi wedi bod yn chwarae i'r clwb ers sbel nawr a wedi cael fy ffrindiau gorau i ymuno â'r clwb.

"Dwi'n credu bod y clwb yn llawn balchder. Mae'n neis bod yn rhan o deulu rygbi, mae pawb yma yn caru chwarae a ni'n cael llawer o hwyl yn gwneud e hefyd. Mae'n golygu lot i fi.

"Dwi'n credu bod y bois sydd yma yn hapus, ti'n gallu siarad i unrhywun a mae hynna yn beth da."

Pynciau cysylltiedig